Neidio i'r prif gynnwy

Arbenigwyr canser Hywel Dda yn annog cleifion i ddod ymlaen i gael triniaeth

Mae arbenigwyr canser o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog cleifion i ddod ymlaen am brofion diagnostig a thriniaeth ynghanol pryderon nad yw nifer yn ceisio’r gofal sydd ei angen arnynt oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus.

Er ein bod wedi sefydlu llwybrau cleifion llym a rhoi mesurau rheoli heintiau ar waith ar draws pob un o'n safleoedd ysbyty, mae'r bwrdd iechyd yn poeni bod cleifion yn osgoi cael mynediad at driniaeth a gofal, ar ôl i ffigurau newydd dynnu sylw at ostyngiad o 49 y cant mewn atgyfeiriadau canser ers mis Mawrth.

Mae Meddygon Teulu hefyd yn annog pobl i ffonio’u meddygfa os ydynt yn credo y gallai fod ganddynt symptomau canser, megis lwmp newydd, poen, gwaedu neu golli owysau yn sydyn.

Meddai Mr Jegadish Mathias, Arweinydd Canser yn Hywel Dda: “Rydym yn deall pam y gallai pobl deimlo bod angen iddynt gadw draw oherwydd y pandemig COVID cyfredol ond mae gennym ardaloedd “gwyrdd” dynodedig clir iawn yn yr ysbytai ar gyfer profion diagnostig a thriniaeth. Rydyn ni am i bobl sydd â chanser wybod ein bod ni'n dal i fod yma.

“Mae'n rhaid i ni fod yn greadigol a gwneud rhai pethau'n wahanol i helpu i amddiffyn cleifion a'n cydweithwyr, ond mae'r holl weithwyr allweddol canser yn dal yn eu rolau arferol. Felly, os oes gennych chi unrhyw bryderon o gwbl, cysylltwch â ni yn y ffordd arferol.”

Meddai Dr Llinos Roberts, Meddyg Teulu ym Meddygfa Tymbl: “Er ein bod ni'n byw mewn cyfnod rhyfeddol, mae hi mor bwysig bod pobl yn byw'r bywyd gorau y gallan nhw.

“Mae'r gwasanaeth iechyd y gallwn ei gynnig yn wahanol, ond mae'n dal i fod yma - mae meddygon teulu yn dal i weithio. Er bod y drysau ar gau ar hyn o bryd, rydym yn dal i gynnig cyngor ac asesu cleifion. Ond rwy’n poeni nad yw cleifion yn cysylltu â ni yn y niferoedd y byddem yn eu disgwyl.”

Meddai Carrie Speake, claf sy’n cael triniaeth cemotherapi yn yr Uned Dydd Haemotoleg ac Oncoleg yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, nad oes angen i bobl fod ag ofn am gael mynediad at ofal.

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn ffantastig. Mae’r tîm yma’n rhyfeddol, mae pawb mor ofalgar.

“Braf yw medru cymdeithasu o ryw fath. Mae’r mesurau y mae’r bwrdd iechyd wedi’u rhoi ar waith yn hollol wych.

“Does dim byd o gwbl i’w ofni.”