1989 – Dechreuodd Sharon Manning weithio yn Ysbyty Glan Clwyd fel glanhawr
2004 – Graddiodd gyda gradd Baglor mewn Nyrsio (BN) o Brifysgol Bangor
2011 – Daeth yn Nyrs Glinigol Gynecoleg Macmillan Arbenigol
2017 – Enillydd Ffyrdd Newydd o Weithio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr
– Enillydd Gwobr
Rhagoriaeth Arloesedd Macmillan
2021- Derbyn darlith er anrhydedd i Brifysgol Bangor
Mae Sharon Manning,
Arbenigwr Nyrsio Clinigol Gynecoleg Macmillan yn Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl,
wedi cael gwahoddiad gan Brifysgol Bangor i fod yn ddarlithydd anrhydeddus.
– Derbyn Cymrodoriaeth
Macmillan
Yn nyrs Macmillan
ysbrydoledig, mae Sharon wedi ennill sawl gwobr a chanmoliaeth am ei dull
arloesol a thosturiol o ymdrin â gofal canser diwedd oes.
Bydd yn rhannu ei stori nyrsio
a’i phrofiad proffesiynol gyda myfyrwyr israddedig ar y cwrs BN tair blynedd,
Nyrsio Oedolion, yn ogystal â nyrsys ôl-raddedig.
Wrth siarad am y rôl
anrhydeddus hon ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Sharon: “Rwy’n gyffrous
iawn ac yn ddiolchgar am y cyfle hwn gan Brifysgol Bangor, yn enwedig gan mai
dyma lle astudiais ar gyfer fy ngradd nyrsio. Fy nod yn syml yw ysbrydoli
myfyrwyr nyrsio i fod yn agored i arloesi a newid. Rwyf am i’r myfyrwyr
gyffwrdd neu siarad â chleifion fel y byddent am i rywun siarad neu gyffwrdd
nhw hunain neu eu hanwyliaid.”
Mae Sharon, sy’n wreiddiol
o Sir Gaerhirfryn, wedi gweithio i’r GIG yng Nghymru ers dros 30 mlynedd. Yn
1989, ar ôl dod yn rhiant sengl, symudodd Sharon i ogledd Cymru, yn benderfynol
o ddechrau o’r newydd gyda’i bywyd. Ei rôl gyntaf ar wardiau’r ysbyty oedd
gweithio fel glanhawr yn Ysbyty Glan Clwyd. Wrth siarad am ei swydd gyntaf,
dywedodd Sharon: “Yn yr adrannau lle byddwn yn glanhau, byddwn hefyd yn
arsylwi ar nyrsys cymwysedig a myfyrwyr yn gweithio. Gwnaeth i mi feddwl ‘Waw,
byddwn yn rhoi fy mraich dde i gael y cyfle yna!’ Fodd bynnag, ni feddyliais
erioed y gallwn ei gyflawni gan i mi adael yr ysgol yn 15 mlwydd oed heb unrhyw
gymwysterau.”
Penderfynodd Sharon, er
mwyn datblygu gyrfa roedd angen iddi ennill cymwysterau, felly ei cham nesaf
oedd dod yn nyrs gynorthwyol. Llwyddodd i gyflawni hyn, gan weithio mewn
pediatreg am bedair blynedd cyn ennill NVQ Lefel 3 mewn Astudiaethau Gofal
Iechyd.
Pan ddechreuodd Sharon
weithio yn Ysbyty Glan Clwyd, nid oedd gan gleifion yng ngogledd Cymru ganolfan
ganser. Roedd yn rhaid i gleifion deithio i Ganolfan Ganser Clatterbridge yn
Lerpwl neu Ysbyty Christie ym Manceinion ar gyfer triniaethau canser.
Ym 1994, dechreuodd
Canolfan Clatterbridge gynnal clinig cleifion allanol wythnosol ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr ond nid oedd gan y tîm amlddisgyblaethol unrhyw nyrs
gynorthwyol. Gwelodd Sharon gyfle ac ymunodd â’r tîm. O’r pwynt hwn y
dechreuodd ffocws Sharon ar ddarparu’r gofal gorau posibl i bobl sy’n byw gyda
chanser. Dyma’r adeg benderfynodd Sharon hefyd ddod yn nyrs gofrestredig (RN).
Un diwrnod mewn cyfarfod, dywedodd
nyrs gofrestredig yn y tîm wrth Sharon nad oedd angen ei barn. Yn syth ar ôl y
cyfarfod, aeth Sharon i’r Ysgol Nyrsio ym Mangor i ddarganfod sut i gofrestru
fel y gallai hithau hefyd ddod yn nyrs gofrestredig.
Derbyniwyd Sharon i astudio
Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Bangor. Wrth siarad am ei phenderfyniad i ddilyn
gyrfa nyrsio yn ei 40au, dywedodd Sharon: “Fe wnes i gymhwyso fel nyrs yn
2004 pan oeddwn i’n 47 mlwydd oed. Roeddwn i bob amser yn gwybod y byddai fy
ngyrfa nyrsio yn fyr. Fe wnes i hyfforddi’n hwyr, ond doedd hynny ddim o bwys i
mi. Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n bendant eisiau gwneud gwahaniaeth i ansawdd y
gofal roedd cleifion yn ei gael.”
Yn 2017, derbyniodd Sharon
dair gwobr fawreddog i gydnabod ei gwaith arloesol. Gall rhai cleifion canser
yr ofari yng ngham gofal lliniarol eu clefyd ddatblygu asgites malaen, sy’n
groniad poenus o hylif yn leinin yr abdomen. Aeth Sharon ati i gyflwyno
cathetrau parhaol ar gyfer cleifion canser yr ofari lliniarol – gwasanaeth sy’n
newid bywyd sy’n caniatáu i gleifion ddraenio’r hylif asgites o’u abdomen
gartref, yn hytrach na gorfod mynd i’r ysbyty i gael eu draenio. Roedd y dull
hwn yn lleihau nifer yr ymweliadau ysbyty a gynhaliwyd yn ystod camau olaf
bywyd y claf ac yn rhoi mwy o amser i’r claf gyda’u hanwyliaid.
Wrth siarad am ei gyrfa
nyrsio fel gweithiwr proffesiynol Macmillan, dywedodd Sharon: “Rwy’n falch
iawn o gario teitl Macmillan yn fy rôl. Mae’r enw Macmillan yn uchel iawn ei
barch. Mae cleifion, perthnasau ac aelodau o’r cyhoedd yn disgwyl y gorau
gennych chi ac ni ddylent gael dim llai.
“Mae fy nghlaf a
minnau eisoes wedi hyrwyddo Macmillan yn llwyddiannus. Rhannodd fy nghlaf a’i
gŵr eu stori canser a siarad am sut yr oeddwn i, fel gweithiwr proffesiynol
Macmillan, wedi eu cefnogi. Gwnaed ein stori yn llyfryn a’i hanfon at y cyhoedd
yn gofyn am roddion. Fe wnaethom godi £430,000! Am waddol gwych y gadawodd fy
nghlaf i’w theulu.
“Pan dwi’n myfyrio ar
fy ngwaith, dwi’n teimlo’n freintiedig iawn. Rwyf wedi gofalu, ac ar hyn o bryd
yn gofalu am rai merched hardd ar hyd eu taith canser. Rwy’n teimlo’n
ostyngedig yn aml gan eu dewrder a’u gwydnwch. Y gwir arwyr yw’r merched hyn
sy’n wynebu eu diagnosis canser gyda’r fath ddewrder ac urddas.”
Wrth sôn am ei rôl CNS
bresennol, dywedodd Sharon:” Yn fwy nag erioed o’r blaen fel gweithwyr
allweddol, rydym bellach yn canolbwyntio ar les unigol y claf. Un o’m rolau yw
cefnogi’r claf, ei deulu neu ofalwr yn seicolegol o’r adeg pan fyddan nhw’n
cael diagnosis, drwy driniaeth, dychweliad y clefyd, lleddfu a’r cleifion hynny
sy’n byw gyda’u canser. Rydw i yno i’w galluogi i barhau â’u bywyd, gan wybod,
os ydyn nhw fy angen i, y gallan nhw fy ffonio i.”
“Rwy’n 64mlwydd
oed nawr ac yn bwriadu gweithio yn y swydd hon am y ddwy flynedd nesaf. Dydw i
byth yn rhoi’r gorau i edrych a gofyn a allwn ni wneud pethau’n wahanol i wella
gofal cleifion a byddaf yn mynd ati i wneud hynny nes i mi ymddeol.”
Meddai Lynne Williams,
Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd ym Mhrifysgol Bangor:
“Gyda balchder a
phleser mawr gwelwn fod Mrs Sharon Manning wedi derbyn teitl darlithydd Er
Anrhydedd yma ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n dda gweld bod cyn-fyfyriwr wedi mynd
ymlaen i sicrhau canlyniadau a gwelliant gwych i wasanaethau i gleifion â
chyflyrau Oncogynecolegol gan sicrhau eu bod ar flaen y gad o ran gofal ac mae
ei dyfeisgarwch i wasanaethau i’w ganmol.
Yn ogystal, mae cael Sharon
ar gael i helpu i gyflwyno ein cwricwlwm newydd a llunio gweithlu nyrsio’r
dyfodol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o nyrsys yn newyddion
ardderchog.”
Wrth sôn am yrfa Sharon a’r
effaith mae wedi’i gwneud fel gweithiwr proffesiynol Macmillan, dywedodd
Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau Macmillan yng Nghymru: “Mae Sharon yn
nyrs eithriadol, ac yn fodel rôl gwych i unrhyw un sy’n dechrau ar yrfa mewn
nyrsio.
“Mae Sharon yn rhoi
anghenion ei chleifion wrth wraidd ei nyrsio, a’r ffocws hwn sy’n gyrru ei
hangen i gael y gofal gorau i’w chleifion. Mae hi’n benderfynol ac yn arloesol
ac rydym yn falch iawn ei bod yn nyrs Macmillan.
“Mae gan Sharon ddwy
flynedd arall mewn nyrsio, felly mae’r ddarlithyddiaeth anrhydeddus a
ddyfarnwyd gan Brifysgol Bangor eleni yn gyfle gwych i Sharon rannu ei phrofiad
proffesiynol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o nyrsys.”
Os hoffech gael rhagor o
wybodaeth am nyrsio ym Mhrifysgol Bangor, ewch i’w gwefan yn
https://www.bangor.ac.uk/.
Mae gan Linell Gymorth
Macmillan ar 0808 808 00 00 (sydd ar
agor saith diwrnod yr wythnos) nyrsys ac arbenigwyr gwybodaeth canser sydd
wedi’u hyfforddi’n arbennig a all ddarparu gwybodaeth a chyngor, yn ogystal â
chymorth emosiynol, i helpu pobl â chanser i ymdopi â straen ychwanegol
pandemig y coronafeirws.