Bydd chwaraewyr a chefnogwyr yn dangos eu cefnogaeth i Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn ystod gêm bêl-droed a gynhelir yn Aberystwyth.

Bydd Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn wynebu Hwlffordd mewn gêm sy’n rhan o gynghrair Cymru Premier League ddydd Gwener, 14 Hydref 2022, i ddechrau am 8pm.

Mae Tîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru wedi cydweithio â Chanolfan Gymorth Casineb Cymru yn Victim Support i wneud gwaith ymgysylltu yn ystod y gêm ar gyfer cefnogwyr.

Yn rhan o’r digwyddiad, bydd yna gyhoeddiad swyddogol cyn y gic gyntaf, baner ar ochr y cae yn codi ymwybyddiaeth o Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2022, stondin wybodaeth yn y clwb cyn y gic gyntaf ac yn ystod hanner amser. Yn ogystal â hyn, bydd cymorth a gwybodaeth ar gael gan Victim Support a’r Tîm Cydlyniant, ynghyd â wal addewidion lle anogir chwaraewyr, swyddogion y gêm a chefnogwyr i roi negeseuon yn addo cydsefyll â dioddefwyr Troseddau Casineb ac i beidio â goddef hiliaeth na chasineb mewn chwaraeon.

Mae’r digwyddiad hwn yn un o gyfres o fentrau a digwyddiadau i hyrwyddo a chefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, a chefnogir y digwyddiad ymgysylltu gan nifer o asiantaethau partner, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Canolfan Gymorth Casineb Cymru yn Victim Support, Clwb Pêl-droed Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Hwlffordd, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberystwyth, Heddlu Dyfed-Powys, Prifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Meithrin ymwybyddiaeth

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am Gydlyniant Cymunedol: “Rydym yn falch i gefnogi’r digwyddiad lleol hwn i dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Ni ddylai neb ddioddef trosedd casineb ac mi fydden ni’n annog unrhyw un sy’n cael ei effeithio i roi gwybod amdano drwy gysylltu â’r heddlu neu Victim Support. Rwy’n siŵr y bydd y ddau dîm yn rhoi o’u gorau ar y cae pêl-droed ac y bydd y cefnogwyr yn mwynhau mas draw, a, gobeithio yn gwerthfawrogi ffordd arloesol o feithrin ymwybyddiaeth o’r mater pwysig hwn.”

Ategodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Gall profi trosedd casineb fod yn brofiad hynod o frawychus, a gall adael effaith hirdymor ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’n cymunedau. Mae’n braf gweld clybiau pêl-droed Hwlffordd ac Aberystwyth yn chwarae eu rhan drwy godi ymwybyddiaeth pobl o effaith troseddau casineb heddiw. Y gobaith yw y bydd y gêm hon, ynghyd â phob gweithgaredd a digwyddiad arall a gynhelir yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, yn addysgu pobl am eu cyfrifoldebau ac yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i’w helpu i herio’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n arwain at droseddau casineb.”

Becca Rosenthal yw Rheolwr Canolfan Gymorth Casineb Cymru ar gyfer Victim Support, a dywedodd: “Pwrpas Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yw codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, sut i adrodd amdano a’r Cymorth sydd ar gael i bobl a chymunedau yr effeithir arnynt. Mae hefyd yn ymwneud â dangos undod â’r rhai yr effeithir arnynt, cofio am bobl yr ydym wedi colli a chefnogi pobl sydd angen cymorth. Mae yna rywbeth pwerus iawn ynghylch dod ynghyd trwy iaith fyd-eang chwaraeon i ddangos cryfder ein cydsafiad a’n hundod.”

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ddysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn croesawu’r fenter hon yn fawr fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu a hybu cydraddoldeb ac amrywioldeb ym mhob agwedd o’i gweithrediadau a’i gweithgareddau, ac i ddarparu amgylchedd astudio cynhwysol, heb wahaniaethu, ac arddel gwerthoedd parch, urddas a chwrteisi. Mae cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb a’u heffeithiau niweidiol ar unigolion a chymdeithas yn hollbwysig ac rydym yn cymeradwyo ymrwymiad y timau pêl-droed a’r partneriaid sy’n cefnogi’r digwyddiad hwn.”

Cefnogodd Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yr ymgyrch trwy ddweud: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch i gefnogi’r digwyddiad hwn yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Mae gan sefydliadau ac unigolion ran bwysig i’w chwarae wrth geisio gwaredu â gwahaniaethu yn ein cymunedau ac mae digwyddiadau o’r fath yn un enghraifft o’r gwaith rydym yn ei wneud ar y cyd â phartneriaid eraill. Mae staff y Bwrdd Iechyd yn falch o weithio mewn partneriaeth i gefnogi mentrau tebyg i’r rhain sy’n ceisio meithrin ymwybyddiaeth o effeithiau niweidiol troseddau casineb.”

Beth yw trosedd casineb a sut y mae adrodd amdani?

Trosedd casineb yw unrhyw ymddygiad troseddol yr ymddengys ei fod wedi’i ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn, neu sy’n cynnwys geiriau neu ymddygiad sy’n dangos gelyniaeth, yn seiliedig ar yr hyn a dybir am nodweddion canlynol yr unigolyn:

  • hil
  • crefydd
  • cyfeiriadedd rhywedd
  • hunaniaeth trawsryweddol
  • anabledd

Gall trosedd casineb gynnwys cam-drin geiriol, brawychu, bygythiadau, aflonyddu, ymosod a bwlio, yn ogystal â difrod i eiddo. Gallai'r troseddwr fod yn rhywun anhysbys i chi, neu gall fod yn ffrind. Gall ddigwydd yn bersonol ac ar-lein.

Os ydych yn profi trosedd casineb, gallwch ffonio’r heddlu yn uniongyrchol trwy alw 999 os ydych mewn perygl ar y pryd, neu 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai argyfyngus.

Ffoniwch 0300 30 31 982 (am ddim 24/7) i gysylltu â Victim Support yn uniongyrchol. Bydd y galwadau’n cael eu trin yn gyfrinachol a bydd gennych yr opsiwn i barhau’n anhysbys.

Gallwch hefyd adrodd amdano ar-lein: www.reporthate.victimsupport.org.uk  

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisiau/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth/trosedd-casineb/

05/10/2022