Neidio i'r prif gynnwy

Gofal llygaid yn y gymuned

Y Diwrnod Golwg Y Byd hwn, mae Bwrdd iechyd Prifysgol Hywel Dda yn codi ymwybyddiaeth o waith Optometryddion Cymunedol a sut maen nhw’n gwneud mwy na helpu eu cleifion i ddewis pâr o sbectol.

Mewn fideo byr, mae’r Optometrydd Cymunedol Heddwyn Davies yn amlygu’r ystod o wasanaethau y mae ef a’i gyd-weithwyr yn eu darparu yn eu cymunedau, a’r sgiliau a’r wybodaeth arbenigol sy’n rhan o ofal llygaid mewn Gofal Sylfaenol.

Mae gofal llygaid cymunedol yn cynnwys sbectrwm o symptomau y mae nifer o bobl yn ymweld â’u meddyg teulu yn eu cylch megis llygad coch, llygad poenus, golwg ddwbl neu rywbeth yn y llygad.

Meddai Mr Davies, sy’n bartner yn Optometryddion Evans and Hughes yn Llandeilo: “Os ydych am brawf llygad arferol neu os oes gennych symptomau sydd angen eu hymchwilio ymhellach, dylech fynd at Optometrydd Cymunedol cyn unrhyw le arall. 

“Mae gan eich optometrydd y wybodaeth, arbenigedd, sgiliau ac offer i helpu i ddiagnosio a rheoli cyflyrau llygad, neu os oes angen, eich cyfeirio am farn arall.

“Mae nifer o optometryddion yn cynyddu eu sgiliau ac yn darparu mwy o wasanaethau megis clinigau golwg gwan ac hefyd yn cymryd rhan mewn cynlluniau gofal a rennir, sy’n cael eu cyd-reoli gan Ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol o Wasanaeth Gofal Llygad yr Ysbyty.

Cofiwch, os oes gennych symptomau acíwt megis colli golwg, fflachiadau a brychau, llygad coch, llygad poenus, neu rywbeth yn y llygad i enwi ond rhai, ewch at eich Optometrydd a allai o bosib eich gweld fel achos brys dan gynllun Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru.”

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gefnogi ein Optometryddion Cymunedol wrth iddynt gynnig yr ystod cynyddol hon o wasanaethau yn ein cymunedau. 

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr hyfforddiant ychwanegol mae ein Optometryddion wedi’i ymgymryd er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn, a gobeithiwn bod unigolion sy’n profi problemau gofal llygad acíwt yn mynd atynt gyda hyder, gan wybod fad gan Optometryddion achrededig yr arbenigedd i asesu a thrin ystod o symptomau mewn lleoliadau cymunedol, gan osgoi mynd i ysbyty yn ddiangen.”

I weld ble mae eich optometrydd agosaf, ewch i: www.eyecare.wales.nhs.uk/hafan

I wylio’r fideo, ewch i: https://youtu.be/D8vR8KNEgx