Neidio i'r prif gynnwy

Ein system Arfarnu'n cefnogi Cymdeithion Meddygol Ymarfer Cyffredinol ym Mhrosiect Peilot Hywel Dda

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn cefnogi Cymdeithion Meddygol Ymarfer Cyffredinol Hywel Dda wrth iddynt ddechrau ar y Llwybr Datblygu dwy flynedd cyntaf yn y DU. Byddwn yn rhoi cymorth allweddol i garfanau cychwynnol y rhaglen drwy alluogi mynediad at y System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS) i gofnodi a myfyrio ar eu cynnydd.

MARS yw’r system arfarnu fandadol ar gyfer pob meddyg (ar ôl CTT) sy’n gweithio mewn Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd yng Nghymru. Mae’r feddalwedd yn hwyluso arfarniadau blynyddol ar gyfer dros 7500 o feddygon ac yn cysylltu’n uniongyrchol â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC), er mwyn galluogi Swyddogion Cyfrifol i wneud argymhellion ailddilysu.

Dywedodd Chris Price, Pennaeth Uned Cymorth Ailddilysu AaGIC, “Mae hwn yn gysyniad peilot pwysig o’r model arfarnu meddygol. Mae’n cael ei addasu i’w ddefnyddio gan y grŵp hwn o glinigwyr sy’n gweithio’n agos gyda meddygon i ddarparu gofal iechyd i boblogaeth Cymru. Hoffwn ddymuno pob hwyl iddynt. Byddaf yn fwy na pharod i helpu ym mha ffordd bynnag y gallaf i sicrhau bod arfarnu’n parhau i fod yn brofiad ffurfiannol, cefnogol a datblygiadol i bawb dan sylw.”

Bydd y garfan gyntaf o Gymdeithion Meddygol Ymarfer Cyffredinol yn dechrau ar y Llwybr ym mis Mawrth 2022, a bydd ail garfan yn dechrau ym mis Tachwedd 2022. Alex Maiello yw’r Arweinydd Datblygu Cymdeithion Meddygol Gofal Sylfaenol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Arweinydd Llwybr Datblygu Cymdeithion Meddygol Ymarfer Cyffredinol. Dywedodd Alex wrthym: “Fe wnes i astudio fy ngradd Israddedig mewn Gwyddoniaeth Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe a gradd Meistr mewn Astudiaethau Cymdeithion Meddygol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, ac rydw i wedi bod yn Gydymaith Meddygol cymwysedig yn gweithio yn Hywel Dda ers 2020, gan sefyll (a phasio) fy arholiadau terfynol.

Am chwe mis cyntaf fy ngyrfa, roeddwn i’n gweithio yn Ysbyty Bronglais, yn benodol ym maes Meddygaeth Orthogeriatrig ac Endocrin, gyda rhai cyfnodau byr iawn yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac fe wnes i fwynhau’r holl brofiadau hyn yn arw. 

Yna, dechreuais yn fy swydd fel Rheolwr Datblygu Cymdeithion Meddygol Gofal Sylfaenol gan fy mod yn teimlo fy mod i eisiau canolbwyntio ar ddatblygu fy sgiliau a’m galluoedd mewn Ymarfer Cyffredinol, gan ddatblygu’r proffesiwn Cymdeithion Meddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’r GIG ehangach, drwy ddatblygu’r Llwybr Datblygu Cymdeithion Meddygol ôl-radd 2 flynedd cyntaf ar gyfer Cymdeithion Meddygol. Bydd hyn yn helpu eu sgiliau a’u profiad ac yn caniatáu i Gymdeithion Meddygol gwybodus, hyderus a llawn cymhelliant ffynnu mewn Ymarfer Cyffredinol, fel aelodau craidd o’r tîm clinigol. 

Mae’r llwybr hwn yn unigryw gan ei fod wedi cael ei gefnogi gan nifer enfawr o feysydd ac mae wir yn ymdrechu i annog ac ehangu lefel sgiliau a phrofiad sylfaenol Cymdeithion Meddygol. Drwy gefnogaeth ddiwyro safleoedd ein hysbytai partner, ein cyfarwyddiaethau arbenigedd a’n Practisau Meddygon Teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ogystal â sefydliadau Cenedlaethol fel AaGIC, rydym wedi creu a lansio rhaglen ddatblygu, o’r bôn i’r brig. Mae’n nodi’r prif feysydd meddygaeth ac ymarfer y mae angen i Gymdeithion Meddygol sy’n dymuno gweithio gyda meddygon teulu fod yn fedrus, yn hyderus ac yn brofiadol ynddynt er mwyn datblygu eu meysydd diddordeb ac arbenigedd unigol, yn ogystal â datblygu ymhellach y proffesiwn cyffredinol i ateb yr her o gefnogi GIG Cymru wrth iddo gael ei drawsnewid ar ôl y pandemig.

Nod y llwybr hwn yw bod yn fodel y mae llawer o gynlluniau eraill tebyg yn cael eu datblygu ohono. Wrth i’r GIG ddatblygu a’r proffesiwn Cymdeithion Meddygol dyfu, felly hefyd y bydd y rôl y bydd rhaglenni fel hyn yn ei chwarae o ran ymestyn ymhellach yr hyblygrwydd, y gallu i addasu a’r gefnogaeth gyffredinol y gall Cymdeithion Meddygol fel clinigwyr sefydledig eu rhoi i bob maes meddygaeth yng Nghymru, a gweddill y DU.”

Mae’r dull cydweithredol hwn yn dilyn y gwaith y mae’r sefydliad eisoes wedi’i wneud i gefnogi Cymdeithion Meddygol. Ar hyn o bryd, mae AaGIC yn comisiynu rhaglen hyfforddi MSc Astudiaethau Cymdeithion Meddygol ddwy flynedd o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor. Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus radd israddedig mewn gwyddoniaeth neu iechyd.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal yn y Gymuned a Gofal Tymor Hir ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydyn ni’n falch iawn o’r cynnydd mae Alex wedi’i wneud o ran cynnwys y rhaglen datblygu Cymdeithion Meddygol Ymarfer Cyffredinol yn rhaglen MARS. 

“Cafodd y rhaglen wreiddiol ei hariannu gan gyllid cenedlaethol Pacesetter ac oherwydd ei llwyddiant cychwynnol, mae hon bellach yn rhaglen y mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo cyllid parhaus iddi. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhaglen yn mynd o nerth i nerth, a’n bod yn gweld mwy o Gymdeithion Meddygol Ymarfer Clinigol yn gweithio mewn meddygfeydd yn Hywel Dda fel rhan o Fodel Gofal Sylfaenol Cymru.”

Gallwch gyfeirio unrhyw ymholiadau am y llwybr at Alex Miaello alexander.maiello@wales.nhs.uk ac unrhyw ymholiadau am MARS at Beccy Newton, Rebecca.newton@wales.nhs.uk.