Neidio i'r prif gynnwy

Cyrraedd carreg filltir brechu yn Hywel Dda

Gyda diolch i ymdrechion anhygoel timau brechu a meddygfeydd ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gallwn gadarnhau bod Bwrdd Iechyd Prifsygol Hywel Dda wedi cyrraedd carreg filltir gyntaf brechu Llywodraeth Cymru o gynnig dos cyntaf i bawb yng ngrwpiau 1 i 4 erbyn dydd Llun 15 Chwefror.

Mae ffigurau a gofnodwyd yn lleol yn cadarnhau, am 10am heddiw, dydd Llun 15 Chwefror, bod 101,938 o frechlynnau wedi’u rhoi - dyna 92% o bobl leol yn y 4 grŵp blaenoriaeth cyntaf. Gyda llawer o feddygfeydd a Chanolfannau Brechu Torfol y Bwrdd Iechyd yn gweithio'n ddi-flino dros y penwythnos mae'n debygol bod mwy o ddata eto i'w ychwanegu ond hyd yn oed heb hyn, mae'r Gwasanaeth Iechyd lleol wedi ymateb i'r her i amddiffyn ei phobl fwyaf agored i niwed.

Mae ffocws y bwrdd iechyd bellach yn troi at gam nesaf ei raglen frechu wrth inni symud ymlaen at y grwpiau blaenoriaeth nesaf tra hefyd yn darparu ail ddos i'r rhai a dderbyniodd eu dos cyntaf ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae'r rhaglen frechu hon yn cynnig gwir ddatrysiad yn y frwydr yn erbyn COVID-19 a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan yn y cyflawniad hwn.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’n cymuned mewn grwpiau grwpiau blaenoriaeth 1 i 4 sydd wedi camu ymlaen mewn niferoedd mawr i dderbyn eu brechlyn. Ar ddechrau'r rhaglen hon roeddem o'r farn y byddai llwyddiant yn golygu bod 75% o bob grŵp yn derbyn brechlyn.

“Rydym wedi rhagori ar hyn ym mhob un o'r pedwar grŵp ac mae hyn yn rhoi ein tair sir mewn sefyllfa gref iawn i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a'n Gwasanaeth Iechyd lleol.

“Rydyn ni’n gobeithio gweld y nifer uchel hon yn parhau wrth i ni symud i frechu grwpiau 5 i 9 erbyn y gwanwyn ac i weddill ein poblogaeth oedolion drwy’r haf. Diolch”

Dros yr wythnosau nesaf, bydd gostyngiad dros dro yn y defnydd o ganolfannau brechu torfol ar draws y tair sir er mwyn rheoli logisteg dosbarthu ail ddosau yn eu trefn yn y ganolfan frechu lle derbyniwyd y dos cyntaf a hefyd oherwydd a gostyngiad bach yn nifer y brechlynnau sy'n cael eu derbyn.

Gallwn eich sicrhau fod hwn yn newid arfaethedig a disgwyliedig yn y cyflenwad a fydd yn effeithio ar y DU gyfan. Mae hyn wedi cael ei ystyried yn ein cynllunio ac ni fydd yn effeithio ar apwyntiadau nac oedi pan fydd pobl i gael eu hail ddos. Disgwylir i'r cyflenwad o frechlynnau gynyddu'n sylweddol o ddechrau mis Mawrth.

Bydd pobl 65 i 69 oed (grŵp blaenoriaeth 5) yn dechrau cysylltu â'u practis meddyg teulu dros yr ychydig wythnosau nesaf i dderbyn eu brechlyn a bydd cyhoeddiadau pellach ynghylch sut y bydd pobl yng ngrŵp 6 yn cael eu gwahodd cyn gynted â phosibl.

Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd yn eich tro chi. Gwahoddir pobl i dderbyn y brechlyn yn nhrefn eu blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Wrth i fwy o'n cymuned ddechrau derbyn brechlyn, atgoffir pobl bod yn rhaid iddynt barhau i ddilyn cyngor ac arweiniad cyfredol mewn perthynas â phellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb.

Bydd y brechlyn yn lleihau eich siawns o fynd yn ddifrifol wael. Nid ydym yn gwybod eto a fydd yn eich atal rhag dal a throsglwyddo'r feirws.

I gael mwy o wybodaeth am y brechlyn a rhaglen frechu Hywel Dda, ewch i Rhaglen frechu COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)