Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cleifion Canser yn Ne-Orllewin Cymru yn cael diagnosis cyflymach gan ddiolch i sganiwr gwerth aml-filiynau o bunnoedd.

Mae disgwyl i amseroedd aros gael eu lleihau i gleifion canser De-Orllewin Cymru sydd angen sgan PET/CT arnynt.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi sicrhau sganiwr PET/CT symudol i Ysbyty Singleton, Abertawe. Ar hyn o bryd, bydd unrhyw un sydd yn byw tua’r gorllewin i Ben-y-bont ar Ogwr yn gorfod teithio i Gaerdydd er mwyn cael mynediad at y dechnoleg o’r ansawdd gorau hon.

Hefyd, bydd y sganiwr o fudd i gleifion yn byw ymhellach i'r dwyrain o dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ogystal â rhai cleifion o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Er bod y sganiwr yn symudol ar hyn o bryd, y bwriad yw i Fae Abertawe ddod yn fan parhaol ar gyfer sganiwr sefydlog.

Bu’r Athro Neil Hartman, Pennaeth Meddygaeth Niwclear yn Ysbyty Singleton, yn gweithio ar y cynnig ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a bu’n llwyddiannus wrth gadarnhau’r gwasanaeth. Dywedodd: “Petaem ni’n edrych ar nifer o sganwyr PET/CT y boblogaeth, gwelem fod Cymru ar waelod rhestr argaeledd PET/CT Ewrop gyfan.

“Ers imi gyrraedd y Bwrdd Iechyd, un o’m mentrau allweddol oedd dod â’r dechnoleg sganio hon i Fae Abertawe.

“Rwy’n gobeithio mai hwn yw’r cyntaf o wasanaethau sganio diagnostig i Dde-Orllewin Cymru.”

I gleifion canser, mae sgan PET/CT yn amhrisiadwy gan ei fod yn darparu gwybodaeth fanwl iawn am y batholeg.

Mae’n cyfuno sgan CT a sgan PET (Tomograffeg Allyriad Positron).

Mae’r sgan CT yn cymryd Pelydrau-X o’r corff i greu llun 3D. Ond mae’r ochr PET o’r sgan yn gweld cyffur ymbelydrol (radiofferyllol) wedi’i bigiadu, sydd yn dangos rhannau’r corff lle mae celloedd yn treulio mwy o glwcos nag sydd yn arferol. Mae hyn yn galluogi i'r sgan weld y canser a chlefydau eraill efallai na fydd yn ymddangos ar fathau eraill o sganiau.

Bydd yn chwarae rhan allweddol wrth wneud penderfyniadau ynghylch y driniaeth fwyaf addas i bob un canser penodol (neu batholeg arall).

Mae cywirdeb y sganiwr yn golygu y gall ddiagnosio canser, canfod pa mor fawr yw’r canser, ac a ydyw wedi lledaenu ai peidio.

Hefyd, gall ddangos pa mor dda mae’r canser wedi ymateb i driniaeth, a ydyw wedi dod yn ôl ai peidio, ac os ydyw, ble yn y corff mae’r canser yn union

Mae hyn i gyd yn rhoi’r syniad gorau posibl i weithwyr iechyd proffesiynol o’r hyn sydd yn digwydd i'r claf.

Mae’r Athro Neil Hartman yn esbonio sut mae’r sganiwr PET/CT yn creu llun anhygoel: “Mae cael sgan fel hwn ar gyfer canser, ond hefyd ar gyfer clefyd y galon a chlefyd niwrolegol, yn golygu nad oes angen nifer o brosesau diagnostig eraill arnynt gan fod y sgan PET/CT mor benodol.”

Ar gyfer cleifion sydd â chanser, un o’r pethau olaf maen nhw eisiau yw wynebu taith hir. Ar hyn o bryd, mae claf sy’n byw yn Abergwaun yn gorfod teithio pum awr yn ôl a blaen ar gyfer sgan PET/CT. Unwaith i'r sganwyr fod yn weithredol ym Mae Abertawe, gellir rhannu’r amser teithio yn hanner.

Dywedodd Dr Victoria Trainer, Radiolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol PET/CT i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Mae pobl yr amheuir eu bod yn sâl yn gorfod mynd ar deithiau hir, ac weithiau anodd.

“Mae’r sganiwr yn newyddion da i gleifion De-Orllewin Cymru, a fydd bellach yn cael mynediad i’r math yma o sganio yn ystod cyfnod yn eu bywydau sydd wir yn anodd.”

Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn rhan o’r bartneriaeth i weithio tuag at gael y sganiwr ar gyfer Ysbyty Singleton.

Sefydlwyd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i sicrhau bod gan boblogaeth Cymru fynediad teg i ystod o wasanaethau arbenigol. Dywedodd Dr Sian Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr i WHSSC: “Mae’n bleser gennym allu comisiynu sganiwr PET/CT symudol i Ysbyty Singleton.

“Bydd yn gwella mynediad i gleifion De-Orllewin Cymru, tra cynyddu’r capasiti cyffredinol i Gymru gyfan.”

Mae gobaith y caiff 1200 o gleifion eu gweld dros y flwyddyn nesaf.

Bydd y sganiwr symudol yn weithredol i’r cleifion cyntaf ar Orffennaf 2.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.