Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin brechlyn wythnosol - rhifyn un

Croeso i rifyn cyntaf o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

 

Rhagair gan Maria Battle, Cadeirydd BIP Hywel Dda a Steve Moore, Prif Weithredwr BIP Hywel Dda

Mae’r brechlyn yn cynnig gobaith i’n cymunedau, ac rydym yn gwybod bod heriau wedi bod wrth ddechrau’r rhaglen brechu torfol fwyaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Fodd bynnag, rydym yn hyderus ein bod yn goresgyn yr heriau hyn ac mae ein diolch am hyn i staff y gwasanaeth iechyd a’n cyd-weithwyr ar draws gofal sylfaenol. Bydd y bwletin wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ehangu’r rhaglen y gobeithiwn fydd yn rhoi sicrwydd i’n cymuned.

Mae cymeradwyaeth y brechlyn Oxford-AstraZeneca yn yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ddigwyddiad sylweddol, gan ei gwneud yn llawer haws i ni ehangu ein rhaglen frechu i’n cymunedau trwy ein meddygfeydd.

Rydym yn gobeithio rhannu newyddion pellach am ganolfannau brechu torfol ychwanegol yn Aberystwyth, Hwlffordd a Llanelli a sut y bydd gan ein fferyllfeydd cymunedol rhan ganolog i’w chwarae, cyn gynted ag y bydd y manylion yn cael eu cadarnhau.

Gofynnwn i'n cymunedau fod yn amyneddgar. Peidiwch â ffonio'ch meddygfa neu ysbyty i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu, cysylltir â chi pan fyddwn yn barod i gynnig eich brechlyn i chi.

Mae hefyd yn bwysig iawn cofio, mae un dull o amddiffyn yw brechlyn COVID-19 - mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth atal COVID-19 rhag lledaenu trwy barhau â golchi dwylo yn rheolaidd, ymbellhau cymdeithasol a gwisgo mwgwd pan fo angen hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu.

 

Ystadegau brechu BIP Hywel Dda (yn gywir adeg cyhoeddi)

  • 12,686 o’r dos cyntaf wedi’i roi hyd at ddydd Sul 10 Ionawr 2021
  • 6,400 dos o’r brechlyn Oxford-AstraZeneca wedi’u derbyn hyd yn hyn (ar gyfer rhai dros 80, gan gynnwys cleifion sy’n gaeth i’r tŷ, a holl breswylwyr cartrefi gofal)
  • Meddygfeydd sy’n cynnig y brechlyn Oxford-AstraZeneca yr wythnos hon:    
    • Sir Benfro – pedair meddygfa
    • Ceredigion – pedair meddygfa
    • Sir Gaerfyrddin – chwe meddygfa
  • Cadarnhawyd 3,900 dos o’r brechlyn Pfizer-BioNtech ar gyfer yr wythnos yn dechrau ddydd Llun 11 Ionawr (dim ond ar gyfer staff cartrefi gofal a staff iechyd a gofal cymdeithasol a hynny yn un o’n canolfannau brechu torfol yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi)

 

Canolfannau brechu torfol

Bydd staff rheng flaen cartrefi gofal a staff rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gael eu brechu yn ein canolfannau torfol yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi yr wythnos hon.

Peidiwch â mynychu heb apwyntiad ac ni ddylech o dan unrhyw amgylchiadau drefnu apwyntiad yn yr un o'r canolfannau hyn os nad ydych yn staff rheng flaen cartref gofal neu staff rheng flaen iechyd neu ofal cymdeithasol.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn sefydlu canolfannau brechu ychwanegol yn Aberystwyth, Llanelli a Hwlffordd. Gwneir cyhoeddiadau ar y rhain cyn gynted ag y bydd y manylion terfynol wedi’u gwneud.

 

Cyhoeddwyd strategaeth frechu COVID newydd

Heddiw (dydd Llun 11 Ionawr 2021) bydd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi Strategaeth Frechu Covid-19, sy’n gosod tair carreg filltir allweddol.

  • Erbyn canol mis Chwefror – bydd pob preswylydd a staff cartrefi gofal; staff rheng flaen iechyd a gofal; pob un dros 70 oed a phob un sy’n hynod fregus yn glinigol wedi cael cynnig eu brechu.
  • Erbyn y gwanwyn – bydd brechiad wedi’i gynnig i’r holl grwpiau blaenoriaeth cam un eraill. Sef, pob un dros 50 oed a phob un sydd mewn risg oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol.
  • Erbyn yr hydref – bydd brechiad wedi’i gynnig i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Yn gyfan gwbl, gallai tua 2.5 miliwm o bobl ledled Cymru gael cynnig brechiad Covid erbyn mis Medi, yn dibynnu ar gyngor pellach gan y JCVI.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am y cynllun brechu.

 

Pwy sy’n gymwys i gael y brechlyn

Y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) sy'n penderfynu ar y grwpiau sydd i'w blaenoriaethu i gael brechlyn COVID-19 yn gyntaf, a hynny ar lefel y DU. Mae hyn yn seiliedig ar wybodaeth ynghylch pwy sydd fwyaf mewn risg o COVID-19.

Dyma’r rhestr flaenoriaeth: 

  1. preswylwyr cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn a’u gofalwyr 
  2. pob un sy’n 80 oed neu hŷn a staff rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol 
  3. pob un sy’n 75 oed neu hŷn 
  4. pob un sy’n 70 oed neu hŷn ac unigolion sy’n hynod fregus yn glinigol 
  5. pob un sy’n 65 oed neu hŷn 
  6. pob unigolyn o 16 oed i 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy’n eu thoi mewn risg uwch o glefyd difrifol a marwolaeth 
  7. pob un sy’n 60 oed neu hŷn 
  8. pob un sy’n 55 oed neu hŷn 
  9. pob un sy’n 50 oed neu hŷn

Ar hyn o bryd mae rhaglen frechu BIP Hywel Dda yn canolbwyntio ar roi’r brechlyn i bobl yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 a 2.

 

Gwybodaeth bwysig

  • Cynghorir gadael cyfnod o 7 diwrnod rhwng unrhyw frechlyn arall a brechlyn COVID-19. Mae hyn yn cynnwys brechlynnau ffliw. Cynghorir gadael cyfnod o 28 diwrnod yn dilyn prawf positif COVID, cyn belled â'ch bod chi'n teimlo'n iach ac wedi gwella.
  • Ni allwch ddal COVID-19 o’r brechlyn. Ond mae’n bosib o fod wedi dal COVID-19 heb fod yn ymwybodol fod gennych y symptomau tan ar ôl cael y brechlyn. Symptomau pwysicaf COVID-19 yw dyfodiad diweddar unrhyw un o’r canlynol:
    • peswch newydd, parhaus
    • gwres uchel
    • colli, neu newid, yn eich synnwyr arferol o flasu neu arogli
    • mae gan rai pobl ddolur gwddf, cur pen, trwyn llawn, dolur rhydd, cyfod a chwydu

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchos, arhoswch gartref a threfnwch i gael prawf. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am symptomau cliciwch yma.

  • Mae dau frechlyn i'w defnyddio yng Nghymru - y brechlyn Pfizer, yr ydym wedi bod yn ei ddefnyddio ers dechrau mis Rhagfyr a brechlyn Oxford-Astra Zeneca, y rhoddwyd y dosau cyntaf ohonynt yr wythnos diwethaf. Cymeradwywyd trydydd brechlyn ddydd Gwener 8 Ionawr - brechlyn Moderna - ond ni fydd cyflenwadau cyntaf y brechlyn hwn ar gael yn y DU tan y gwanwyn.
  • Mae gwybodaeth ar gael ar-lein i dawelu meddwl am ddiogelwch cleifion ac i ganiatáu penderfyniadau gwybodus, a bydd prosesau cydsynio cadarn ar waith i reoli hyn. Cliciwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
  • Mae'n bwysig cael yr ail ddos ar gyfer amddiffyniad tymor hwy. Mae'r JCVI wedi cynghori y dylai'r cyfnod rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos fod hyd at 12 wythnos. Mae hyn yn caniatáu amddiffyn cymaint o bobl â phosibl â dos cyntaf. Mae cynyddu nifer yr unigolion sy'n cael y dos cyntaf trwy ymestyn y cyfnod hyd at 12 wythnos yn golygu y bydd gan lawer mwy amddiffyniad da, heb leihau effeithiolrwydd tymor hir y cwrs dau ddos, a bydd yn atal llawer mwy o dderbyniadau i ysbyty a marwolaethau na defnyddio cyfnod o 3 neu 4 wythnos rhwng dosau. Mae'r JCVI wedi cyhoeddi datganiad yn esbonio'r rheswm dros eu cyngor yma.

 

Ymwybyddiaeth o sgamiau

Mae troseddwyr yn defnyddio'r pandemig i sgamio'r cyhoedd - peidiwch â gadael hyn ddigwydd i chi.

Fe'ch hysbysir gan eich meddyg teulu neu fwrdd iechyd pan fydd eich tro chi i gael brechlyn. Dim ond naill ai trwy alwad ffôn, llythyr neu neges destun y cysylltir â chi. Ni ofynnir i chi byth am unrhyw fanylion banc na thaliad.

Helpwch i atal eraill rhag dioddef sgamiau - riportiwch unrhyw negeseuon testun amheus trwy eu hanfon ymlaen at Ofcom ar 7726.

 

Gwybodaeth bellach a newyddion diweddaraf

Mae'r wybodaeth yn y bwletin hwn yn destun newid yn aml ac mae'n gywir adeg ei gyhoeddi. I gael y wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau dibynadwy, dilynwch:

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: