Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin brechlyn Hywel Dda - rhifyn dau

Croeso i ail rifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dros y saith diwrnod diwethaf, bu cynnydd mawr yn y gwaith o gyflwyno’r rhaglen brechu torfol fwyaf yn ein hanes, gyda meddygfeydd ar draws y tair sir yn cael y brechlynnau.

Ers dechrau’r rhaglen frechu, mae 18,602 o frechlynnau wedi’u rhoi. Rhoddwyd cyfanswm o 6,109 o frechlynnau rhwng ddydd Llun 10 a dydd Sul 17 Ionawr (sy’n 4,676 yn fwy na’r hyn a roddwyd yn y saith diwrnod blaenorol).

Yr wythnos ddiwethaf, bu meddygfeydd yn medru rhannu eu cyflenwadau o’r brechlyn er mwyn sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu brechu cyn gynted â phosib. Hyd at ddydd Sul 17 Ionawr, mae 25.5% o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu dos cyntaf.

Rydym yn falch o allu cadarnhau y bydd pob meddygfa ar draws y tair sir - yn cychwyn yr wythnos hon - yn cael cyflenwad o'r brechlyn Oxford-AstraZeneca ac fel rhan o'n rhaglen cyflwyno’r brechlyn, byddwn yn parhau i weithio gyda meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol i sicrhau bod y brechlyn ar gael i gleifion mewn modd hawdd a theg.

Mae canolfan frechu ychwanegol ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal, staff y gwasanaeth iechyd a staff gofal cymdeithasol yn agor heddiw yn Hwlffordd a bydd y canolfannau yn Aberteifi a Chaerfyrddin yn parhau ar gyfer y grwpiau staff hyn. Bydd canolfannau ychwanegol yn agor yn Aberystwyth a Llanelli yn ystod yr wythnos nesaf, ar gyfer y grwpiau staff hyn yn unig. Os nad ydych wedi cael eich brechlyn eto, siaradwch â'ch cyflogwr ar frys i drefnu apwyntiad; ni ddylai gweithwyr yn y categorïau hyn aros i gael eu brechu gan eu meddyg teulu.

I'r cyhoedd, bydd canolfannau brechu torfol ychwanegol yn agor yn Aberystwyth, Hwlffordd a Llanelli yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd brechu'n parhau ar fyrder trwy feddygfeydd - sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu'r gwasanaeth hwn yn lleol.

Ystadegau brechu BIP Hywel Dda (yn gywir adeg cyhoeddi)

  • Cyfanswm o 18,602 o frechlynnau wedi’u rhoi hyd at ddydd Sul 17 Ionawr 2021
  • Rhoddwyd 6,752 o frechlynnau yn y saith diwrnod diwethaf (o ddydd Llun 11 i ddydd Sul 17 Ionawr 2021)
  • Cyfanswm sydd wedi derbyn yn ôl grŵp blaenoriaeth:
    • Preswylwyr cartrefi gofal - 692 (25.5%)
    • Gweithwyr cartrefi gofal – 1,341 (38.4%)
    • 80 oed a hŷn – 2,001 (8.8%)
    • Gweithwyr gofal iechyd – 8,810 (42%)
    • Gweithwyr gofal cymdeithasol - 785 (8.1%)

Nodwch y gallai’r ffigurau hyn amrywio wrth i broblemau ansawdd data gael sylw o ran pennu grwpiau blaenoriaeth.

  • Cyfanswm brechu ym mhob sir hyd at ddydd Sul 17 Ionawr:
    • Sir Gaerfyrddin 8,730 (4.6%)
    • Ceredigion 2,764 (3.8%)
    • Sir Benfro 5,919 (4.7%)
    • 1,189 arall - staff sy’n gweithio yn y tair sir ond sy’n byw tu allan iddynt
  • Cadarnhawyd bod 18,210 dos o’r brechlynnau ar gael ar gyfer yr wythnos yn dechrau ddydd Llun 18 Ionawr 2021
     

Apêl frys – peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu

Yr wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.

Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

I ddysgu mwy am y brechlyn, ac i weld Cwestiynau Cyffredin a gwybodaeth i gleifion, ewch i

Cadw’n ddiogel ar ôl cael y brechlyn

Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn 100 y cant effeithiol ac efallai y bydd rhai pobl yn cael COVID-19 er gwaethaf cael y brechiad, ond bydd eu haint yn llai difrifol.

Ar ôl i chi gael eich brechlyn, rhaid i chi weithredu i atal lledaeniad coronafirws yn y gymuned a pharhau i ddilyn canllawiau COVID-19 (pellhau cymdeithasol, gorchuddion wyneb, cyfnodau clo) i amddiffyn y rhai o'ch cwmpas.

Er na allwch ddal COVID-19 o’r brechlyn, mae’n bosib o fod wedi dal COVID-19 heb fod yn ymwybodol fod gennych y symptomau tan ar ôl cael y brechlyn. Symptomau pwysicaf COVID-19 yw dyfodiad diweddar unrhyw un o’r canlynol:

    • peswch newydd, parhaus
    • gwres uchel
    • colli, neu newid, yn eich synnwyr arferol o flasu neu arogli

Mae gan rai pobl ddolur gwddf, cur pen, trwyn llawn, dolur rhydd, cyfod a chwydu

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchod, arhoswch gartref a threfnwch i gael prawf trwy ffonio 119 neu fynd i clicio yma. Os oes armoch angen mwy o wybodaeth ar symptomau, ewch i.

Ymwybyddiaeth o sgamiau

Mae troseddwyr yn defnyddio'r pandemig i sgamio'r cyhoedd - peidiwch â gadael hyn ddigwydd i chi.

Fe'ch hysbysir gan eich meddyg teulu neu fwrdd iechyd pan fydd eich tro chi i gael brechlyn. Dim ond naill ai trwy alwad ffôn, llythyr neu neges destun y cysylltir â chi. Ni ofynnir i chi byth am unrhyw fanylion banc na thaliad.

Helpwch i atal eraill rhag dioddef sgamiau - riportiwch unrhyw negeseuon testun amheus trwy eu hanfon ymlaen at Ofcom ar 7726.

Gwybodaeth bellach a newyddion diweddaraf

Mae'r wybodaeth yn y bwletin hwn yn destun newid yn aml ac mae'n gywir adeg ei gyhoeddi. I gael y wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau dibynadwy, dilynwch:

Mae rhifynnau blaenorol y Bwletin Brechlyn ar gael trwy glicio yma.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: