Neidio i'r prif gynnwy

Annog trigolion Llanelli i gael eu profi os oes ganddynt symptomau Covid 19

Mewn ymateb i'r cynnydd mewn achosion coronafirws yn Llanelli, mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog y preswylwyr i gael eu profi os oes ganddynt symptomau Covid-19 - tymheredd uchel, colli neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas, neu beswch newydd a pharhaus.

Mae'r cyngor a'r bwrdd iechyd yn cydweithio'n agos i ddarparu mwy o gapasiti profi i breswylwyr yn y lleoliadau a ganlyn:

• Maes Parcio Parc y Scarlets B, y gellir cael mynediad trwy Barc Manwerthu Trostre, yn Llanelli

• Safle Ty Nant (drws nesaf i KFC), Trostre, Llanelli

• Maes Sioe Caerfyrddin (gydag arwyddion i'r ddau gyfeiriad oddi ar yr A40)

Ni ddylai fod unrhyw reswm i drigolion Llanelli deithio pellteroedd gormodol ar gyfer prawf, bydd profion ar gael yn Llanelli a Caerfyrddin.

Dylid gwneud apwyntiad am brawf trwy Borth y DUYn lle hynny, gall trigolion Llanelli sy'n cael anhawster archebu prawf yn lleol trwy'r porth e-bostio covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 0300 333 2222.

Sylwch fod pob canolfan brawf yn gyrru drwodd yn unig ac ni fyddwch yn gallu cael prawf os nad oes gennych gyfeirnod archebu. Dylech hefyd nodi'r safle prawf a ddyrennir ichi pan fydd eich prawf wedi'i archebu. Mae'n bwysig eich bod yn mynychu'r safle hynny yn unig. 

Bydd angen i chi ddarparu:

• Eich enw llawn

•Dyddiad Geni

• Cod post

• Cyfeiriad e-bost (os yw ar gael)

• Rhif ffôn symudol cyfredol (anfonir canlyniadau profion trwy neges destun) os nad oes gennych rif ffôn symudol, dylech gynnwys rhif ffôn y cartref

Byddwch yn ymwybodol y byddwch yn derbyn galwad yn ôl gan rif sydd wedi ei atal / rhif preifat, a bod profion yn rhad ac am ddim ac na ddylai neb ofyn am fanylion talu neu gyfrif banc.

Peidiwch ag archebu prawf os nad oes gennych symptomau COVID-19

Dilynwch y canllawiau hunan-ynysu diweddaraf sydd i'w gweld yma.

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Llanelli a rhanbarth ehangach Sir Gaerfyrddin wedi gweld cynnydd mewn achosion dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, felly rydym yn annog y cyhoedd i chwarae eu rhan a helpu i leihau lledaeniad y firws trwy gael prawf cyn gynted â phosibl.

“Rydyn ni wedi cynyddu capasiti profi ar gyfer yr ardal ac rydyn ni'n galw ar y rhai sydd â symptomau i archebu prawf. 

“Mae coronafirws yn parhau i fod yn salwch difrifol iawn, yn enwedig i'r henoed a'r rhai sydd â ffactorau risg sy’n bodoli’n barod. Byddwn yn annog y cyhoedd i aros yn wyliadwrus a dilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb sy'n gorchuddio'r geg a'r trwyn, cadw dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill y tu allan i swigen eu cartref, yn ogystal â golchi dwylo'n rheolaidd, neu ddefnyddio glanweithydd dwylo os nad yw golchi dwylo’n yn bosibl. ”