Neidio i'r prif gynnwy

Angen imiwneiddiwr ar frys i ymuno â rhaglen frechu COVID-19

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwneud cais brys i weithwyr proffesiynol gofal iechyd cofrestredig ymuno â'i dîm Brechu COVID-19.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gwneud ei baratoadau olaf i ddarparu rhaglen frechu torfol ar raddfa na welwyd o'r blaen yn y GIG ac mae'n recriwtio ar frys i gytundebau banc a thymor byr.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'r ymateb tymor hir i'r pandemig yn ei gwneud yn ofynnol bod brechlyn diogel ac effeithiol ar gael i bawb sydd ei angen.

“Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rydym yn gwneud y paratoadau terfynol i wneud yn siwr ein bod yn barod i'w gyflwyno i'r bobl yn ein cymuned sydd fwyaf mewn perygl o COVID-19 cyn gynted ag y bydd brechlyn diogel ac effeithiol yn cael ei gymeradwyo."

Gwnewch gais nawr i'n helpu ni i helpu ein cymuned. Ewch i https://biphdd.gig.cymru/swyddi

Helpu gyda’r rhaglen frechu Darllenwch stori Dr Roger Diggle:

Fe wnes i ymddeol fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2019 yn dilyn gyrfa fel meddyg teulu, yna Prif Swyddog Meddygol Ynysoedd y Falkland a Chyfarwyddwr Meddygol GIG Shetland.

Ers mis Medi 2019 rwyf wedi bod yn helpu mewn meddygfa am 4 diwrnod y mis fel meddyg teulu locwm.

Rwy’n bwriadu helpu’r rhaglen frechu mewn unrhyw ffordd y gallaf gan fod llwyddiant y rhaglen yn hanfodol i reoli epidemig Covid.

Mae arnom angen cymaint o frechwyr â phosib er mwyn darparu’r nifer fawr o frechiadau mewn cyfnod mor fyr â phosib. Dewch, ymunwch â’r tîm!