Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 20 - Cyhoeddwyd 26 Mai 2021

Diweddariad nifer o brechiadau - rhifyn 20

Croeso i ugeinfed rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro

Yr wythnos hon, rhoddwyd 21,293 o frechlynnau ar draws canolfannau gofal sylfaenol a brechu torfol.

Yn anffodus, yr wythnos hon profodd y bwrdd iechyd rai problemau gyda llythyrau apwyntiad ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra neu bryder y mae hyn wedi'i achosi. Gwnaed pob ymdrech i ailgyhoeddi apwyntiadau newydd i bawb yr effeithiwyd.

 

Clinigau Brechu COVID-19 pwrpasol ar gyfer beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal clinigau brechu COVID-19 cynenedigol a bwydo ar y fron pwrpasol mewn pedair canolfan brechu torfol bob bore Mawrth.

Er y bydd pob canolfan brechu torfol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gallu brechu unrhyw un sy'n feichiog neu’n bwydo ar y fron a bydd y clinigau cynenedigol yn cael eu cynnal gan fydwraig pe bai unrhyw un yn dymuno derbyn cwnsela a chyngor ychwanegol ynghylch derbyn y brechlyn yn ystod beichiogrwydd.

Bydd y clinigau pwrpasol yn rhedeg bob bore Mawrth rhwng 9am ac 1pm yn y canolfannau brechu torfol canlynol:

  • Canolfan Gynadledda Halliwell, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3EP
  • Theatr Ffwrnes, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE
  • Archifdai Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, SA61 2PE
  • Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 3AS

Os hoffech fynd i glinig brechlyn beichiogrwydd a bwydo ar y fron pwrpasol gallwch hunangyfeirio trwy lenwi'r ffurflen ar-lein ganlynol (agor mewn dolen newydd) a dewis yr opsiwn ‘Clinig Cyn Geni’, neu ffonio 0300 303 8322. Peidiwch â mynychu heb apwyntiad.

Dywedodd Alison Evans, Nyrs Arweiniol Glinigol ar gyfer Canolfannau Brechu Torfol Hywel Dda: “Rydym yn deall bod llawer o wybodaeth ar gael am y brechlyn a all fod yn ddryslyd wrth benderfynu ai ei gael yw'r penderfyniad iawn i chi.

“Wrth i ni ddechrau gwahodd ein carfannau iau fel mater o drefn i dderbyn brechlyn, roeddem am ddarparu cefnogaeth ychwanegol i unrhyw un sy’n feichiog trwy ddarparu clinigau pwrpasol gyda bydwraig ar gael i siarad a trafod.

“Wrth gwrs, gall unrhyw un sy’n feichiog drafod y wybodaeth sydd ar gael gyda’u meddyg teulu, obstetregydd neu fydwraig ar unrhyw adeg a byddant yn gallu derbyn y brechlyn yn unrhyw un o’n canolfannau brechu torfol, ond rydym yn falch o allu cynnig y clinigau pwrpasol hyn i unrhyw un sy'n teimlo y byddent yn elwa o gefnogaeth a chyngor ychwanegol.

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi cynhyrchu taflen wybodaeth a chymorth wrth benderfynu (agor mewn dolen newydd) ynghyd â gwybodaeth arall (agor mewn dolen newydd) a allai fod yn ddefnyddiol i chi neu siaradwch â'ch bydwraig neu ymgynghorydd am y risgiau a buddion i helpu i lywio eich penderfyniad.


Tystysgrifau brechu ar gyfer teithio rhyngwladol

Mae tystysgrifau brechu ar gyfer teithio rhyngwladol bellach ar gael yng Nghymru ar gyfer y rhai sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn trwy ffonio 0300 303 5667 (ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 9am a 5pm)

• PEIDIWCH â chysylltu â’ch meddyg teulu neu’r bwrdd iechyd i gael tysysgrif.

• Teithio hanfodol a cheisiadau brys yn unig.

• Gwiriwch ofynion y wlad rydych chi’n bwriadu ymweld â hi

• Os oes angen prawf Covid negyddol cyn teithio, NI ddylai hwn fod yn brawf GIG. Yn lle hynny mae'n rhaid i chi archebu a thalu am brawf gan ddarparwr preifat. Cliciwch yma i gael rhestr o ddarparwyr (agor mewn dolen newydd)

• Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael cyngor manwl ar dystysgrifau brechu (agor mewn dolen newydd)

 

Sut i gysylltu â ni os nad ydych wedi cael gwahoddiad:

Ar hyn o bryd, nid yw'r JCVI yn cynghori brechu plant sy'n gysylltiadau cartref. Ar hyn o bryd, nid ydynt chwaith yn cynghori brechu cysylltiadau cartref plant imiwnoataliedig.

Peidiwch cysylltu â’r bwrdd iechyd os ydych yn grŵp 10 a rhwng 18 a 20 oed i holi am apwyntiad brechu ar hyn o bryd. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,116 82.0%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,443 98.5% 3,046 87.2%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,827 99.9% 21,512 94.1%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,617 100.3% 22,110 86.5%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,662 95.6% 17,894 91.7%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,017 95.1% 24,005 91.3%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,672 87.6% 7,927 80.0%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,645 90.6% 18,609 77.9%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

37,898 84.9% 9,628 21.6%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,362 68.7% 3,343 17.2%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,747 79.3% 681 3.7%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

14,422 88.7% 611 3.8%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

44,823 29.1% 1,350 0.9%
Cyfanswm: 253,625 65.5% 132,832 34.3%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - Rhifyn 20

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: