Croeso i rifyn 31 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Bydd ein fan symudol, mewn partneriaeth a gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn mynychu Sioe Sir Benfro ar 18 a 19 o Awst.
Mae sioe sir fwyaf Cymru ‘yn ôl am 2021 ar gyfer cyfranogwyr ac aelodau’r gymdeithas yn unig, gan gynnal ceffylau, da byw ac amryw o gystadlaethau eraill.
Mae’r gwasanaeth tan yn darparu un o’i gerbydau a fydd aelodau’r tîm yn bresennol hefyd i ddarparu cyngor diogelwch cymunedol cyffredinol , gan gynnwys diogelwch yn y cartref.
Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd yn BIP Hywel Dda: “Mae’n hwb mawr cael sioe Sir Benfro yn ôl eleni i'r cyfranogwyr.
“Mae cyflwyno’r brechlyn wedi treulio rhai o’r amseroedd prysuraf i'n gymuned ffermio felly rydyn ni wrth ein boddau o allu mynychu’r sioe a darparu mynediad hawdd i’r brechlyn i'r rhai sy’n mynychu.”
Dywedodd Ian John, Aelod Bwrdd Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cyfranogwyr ac aelodau o’r gymdeithas ar gyfer Sioe Sirol ychydig yn llai eleni. Rydym yn falch bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn mynychu gyda fan brechu COVID-19 symudol i barhau gyda’u gwaith hanfodol.
Yn dilyn cyngor diweddaraf y JCVI (agor mewn dolen newydd), mae byrddau iechyd yng Nghymru bellach yn gwahodd pawb sy’n 16 oed neu’n hŷn i gael eu brechu.
Os ydych chi’n 16 oed neu’n hyn ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro, gallwch gael eich brechlyn COVID-19 yn y ffyrdd canlynol:
** Dylid cynnig brechlyn Pfizer/BioNTech (agor mewn dolen newydd) i’r rhai 16 a 17 oed. Sylwch nad yw’r brechlyn hwn ar gael ar hyn o bryd yng nghanolfannau brechu torfol Maes Y Sioe Caerfyrddin neu Ysgol Trewen (Cwm Cou , Castellnewydd Emlyn).
Pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed sydd â risg uwch o gael coronafirws
Mae’r JCVI wedi cynghori (agor mewn dolen newydd) y dylid cynnig y brechlyn Pfizer/BioNTech (agor mewn dolen newydd) i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed sydd â risg uwch o gael coronafirws (COVID-19).
Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc gyda:
Mae’r JVCI hefyd yn argymell y dylid cynnig y brechlyn i'r rhai rhwng 12 a 15 oed sy’n byw gyda rhywun sydd a gwrth imiwnedd.
Rydym yn y broses o nodi’r rhai rhwng 12 a 15 oed sy’n gymwys i'w gwahodd i dderbyn y brechlyn Pfizer/BioNTech mewn canolfan brechu torfol. Peidiwch â mynychu canolfan brechu torfol heb apwyntiad.
Er mwyn osgoi unrhyw oedi, gallwch gysylltu â ni i drefnu apwyntiad:
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 2,166 | 83.9% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,490 | 99.9% | 3,272 | 93.6% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,844 | 100.0% | 22,033 | 96.4% |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
25,950 | 99.0% | 24,861 | 94.9% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,694 | 95.8% | 18,302 | 93.8% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
25,053 | 95.3% | 24,626 | 93.7% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,726 | 88.1% | 8,413 | 84.9% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,727 | 91.0% | 21,304 | 89.2% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
39,060 | 87.5% | 36,798 | 82.5% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,455 | 69.2% | 13,214 | 67.9% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,953 | 80.4% | 14,558 | 78.3% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
15,315 | 94.2% | 14,771 | 90.9% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
73,255 | 47.7% | 52,615 | 34.2% |
45 - 49 oed | 11,194 | 70.8% | 10,375 | 65.6% |
40 - 44 oed | 10,539 | 69.4% | 9,334 | 61.4% |
35 - 39 oed | 11,067 | 68.6% | 8,800 | 53.1% |
30 - 34 oed | 11,216 | 65.9% | 8,453 | 48.4% |
25 - 29 oed | 10,567 | 60.5% | 7,230 | 41.4% |
20 - 24 oed | 12,493 | 66.2% | 6,411 | 34.0% |
15 - 19 oed | 6,162 | 40.8% | 2,009 | 13.3% |
Cyfanswm: | 285,012 | 73.6% | 256,933 | 66.3% |