Neidio i'r prif gynnwy

COVID Bulletin 3 Gallery

27/01/21
Cyhoeddi tudalennau gwe newydd ar y brechlyn

Er mwyn helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am gyflwyno ein rhaglen brechu torfol ac i ddysgu mwy am y brechlyn a phryd y cewch eich gwahodd i'w gael, rydym wedi cyhoeddi tudalennau gwe newydd sydd ar gael.

Gobeithiwn y bydd y tudalennau hyn yn darparu gwybodaeth ymarferol i chi am ein canolfannau brechu torfol a gwybodaeth bwysig am y brechlyn gan gynnwys taflenni gwybodaeth i gleifion ynghyd â manylion pellach am gynllunio'r rhaglen brechu torfol.

Dyma hefyd lle byddwn yn cyhoeddi ein Bwletin y Brechlyn wythnosol wrth symud ymlaen a lle gallwch ddod o hyd i rifynnau blaenorol.

27/01/21
Rhythwyn Evans, 91 oed, yn torchi ei lawes unwaith eto ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a'i gymuned

Y llynedd, cododd Mr Evans dros £50,000 i Elusennau Iechyd Hywel Dda gan gerdded 91 gwaith o amgylch ei gartref, a hynny i ddathlu ei benblwydd yn 91 oed.

Rydym yn falch o adrodd mai Mr Evans oedd y claf cyntaf ym Meddygfa Llanbedr Pont Steffan i gael y brechlyn Oxford-AstraZeneca, a hynny gan Dr Imam, Uwch Bartner yn y feddygfa.

Mae mwy o luniau o’r rhaglen frechu ar draws y tair sir i’w gweld yma

27/01/21
Cyhoeddi chwe Canolfan Brechu Torfol

Yr wythnos hon, bydd pobl yng ngrŵp blaenoriaeth 3 (75 i 79 oed) yn dechrau mynychu un o'n chwe chanolfan frechu i gael eu dos cyntaf o'r brechlyn.

Deallwn y bydd hyn yn golygu teithio ychwanegol neu fynd i rywle anghyfarwydd i rai pobl, pan nad ydych efallai wedi ymweld â llawer o fannau cyhoeddus ers dechrau'r pandemig.

Byddwch yn dawel eich meddwl bod ein canolfannau brechu torfol yn amgylcheddau diogel, gyda lle i gynnal pellter cymdeithasol wrth ganiatáu i fwy o bobl gael eu brechu mor effeithlon a chyn gynted â phosib.

Mae'r canolfannau brechu torfol hyn yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen frechu. Os cewch eich gwahodd i gael eich brechlyn mewn canolfan brechu torfol, mae hynny oherwydd eich bod mewn grŵp blaenoriaeth ac mewn mwy o berygl o gymhlethdodau os ydych chi'n dal COVID-19, felly mae'n hanfodol eich bod chi'n gwneud pob ymdrech i ddod.

Bydd BIP Hywel Dda yn gwneud cyhoeddiad ddechrau’r wythnos nesaf i hysbysu pobl yng ngrŵp blaenoriaeth 4 (rhwng 70 a 74 oed a phobl sy'n fregus iawn yn glinigol) sut a phryd y cânt eu gwahodd i gael y brechlyn.

27/01/21
Ymwybyddiaeth o sgamiau

Mae troseddwyr yn defnyddio'r pandemig i sgamio'r cyhoedd - peidiwch â gadael hyn ddigwydd i chi.

Yr wythnos hon, rydym wedi cael gwybod am sgam e-bost yn cylchredeg yn honni ei fod o'r GIG. Os ydych yn cael neges o’r fath, peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol. 

Byddwch yn wyliadwrus o’r sgamiau hyn a siaradwch â ffrindiau a perthnasau a alla’I fod mewn risg – fe'ch hysbysir gan eich meddyg teulu neu fwrdd iechyd pan fydd eich tro chi i gael brechlyn. Dim ond naill ai trwy alwad ffôn, llythyr neu neges destun y cysylltir â chi. Ni ofynnir i chi byth am unrhyw fanylion banc na thaliad.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: