Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 9 - Cyhoeddwyd 10 Mawrth 2021

Croeso i’r nawfed rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Yr wythnos hon, cyflawnwyd sawl carreg filltir arwyddocaol yn lleol ac ar draws Cymru. Dros y penwythnos, derbyniodd y miliwnfed person yng Nghymru eu pigiad coronafeirws cyntaf. Yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae 150,000 dos o’r brechlyn bellach wedi'u rhoi, sy'n golygu bod 34.1% o'n poblogaeth wedi derbyn eu dos brechlyn cyntaf ac mae 4.4% wedi derbyn cwrs llawn.

Yr wythnos hon mae 10,956 o ddosau cyntaf wedi'u dosbarthu ac mae 8,235 o ail ddosau wedi'u cwblhau.

Canolfan brechu torfol gyrru drwodd newydd yn agor yng Nghaerfyrddin

Agorodd canolfan frechu torfol ychwanegol ar Faes Sioe’r Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin ddydd Llun 8 Mawrth i gefnogi cyflwyno rhaglen frechu COVID-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Yn ddiweddar, cadarnhaodd y bwrdd iechyd y bydd pobl yng ngrwpiau blaenoriaeth JCVI 7, 8 a 9 - hynny yw pawb rhwng 50 a 64 oed heb unrhyw gyflyrau iechyd sylfaenol - yn cael eu gwahodd i dderbyn eu brechlyn COVID-19 cyntaf mewn canolfan frechu dorfol fel a ganlyn :

  • Grŵp 7, pobl 60 - 64 mlwydd oed – dechrau 8 Mawrth
  • Grŵp 8, pobl 55 - 59 mlwydd oed - dechrau 22 Mawrth
  • Grŵp 9, pobl 50 - 54 mlwydd oed - dechrau 5 Ebrill

Ar hyn o bryd mae gan y bwrdd iechyd chwe canolfan brechu torfol wedi'u lleoli yn Aberystwyth, Aberteifi, Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod, Caerfyrddin a Llanelli.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd y ganolfan frechu gyrru drwodd ychwanegol hon yn helpu i gynyddu nifer y brechlynnau y gallwn eu darparu wrth i ni anelu tuag at darged carreg filltir 2 Llywodraeth Cymru; hynny yw cynnig dos brechlyn cyntaf i bawb yn grwpiau blaenoriaeth JCVI 5 i 9 erbyn 18fed Ebrill.

“Mae maes y sioe wedi’i sefydlu fel cyfleuster gyrru drwodd ar gyfer profi COVID ers cryn amser bellach ac mae’n lleoliad perffaith i addasu’n hawdd i ddarparu cyfleusterau brechu ychwanegol.

“Rydym yn gofyn i bobl ddefnyddio eu cludiant preifat eu hunain lle bynnag y bo modd i fynychu apwyntiad. Gellir derbyn lifftiau gan rywun yn eich cartref neu swigen gefnogol, ond nid gan unrhyw un arall oherwydd y risg o drosglwyddo'r feirws.

“Rydyn ni'n deall efallai na fydd hyn yn bosibl i bawb ac felly rydyn ni am sicrhau pobl bod cefnogaeth drafnidiaeth ar gael i unrhyw un a fydd yn wirioneddol yn ei chael hi'n anodd mynychu eu hapwyntiad brechu. Os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o deithio, cysylltwch â'r bwrdd iechyd gan ddefnyddio'r rhif ffôn 0300 ar eich llythyr apwyntiad. "

 

Annog gofalwyr di-dâl cymwys i gofrestru ar gyfer brechlyn COVID-19

Gofynnir i ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro nad ydynt eisoes wedi cofrestru fel gofalwr gyda'u practis meddyg teulu lenwi ffurflen gofrestru ar-lein os ydynt yn dymuno derbyn brechiad COVID-19.

Dywedodd Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol yn cynnig gofal a chefnogaeth ac mae er budd pawb eu bod yn cael eu cefnogi.

“Ers blynyddoedd bellach, mae’r bwrdd iechyd wedi adeiladu cysylltiadau cryf â gofalwyr di-dâl ar draws ein tair sir trwy fentrau fel ein cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, a ddyluniwyd i helpu sefydliadau i ganolbwyntio ar, a gwella, ymwybyddiaeth eu gofalwyr a’r help a’r gefnogaeth a roddant. i ofalwyr.

“Mae dros 10,000 o ofalwyr di-dâl wedi cofrestru gyda meddygfeydd teulu neu'r awdurdod lleol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ond rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy o bobl allan yna nad ydyn nhw efallai'n cydnabod eu hunain fel gofalwr di-dâl ac nad ydyn nhw'n ymwybodol bod cefnogaeth ar gael iddyn nhw, gan gynnwys eu cymhwysedd i gael brechlyn COVID-19.”

Os ydych chi'n credu y gallech fod yn gymwys, yn 16 oed neu'n hŷn ac nad ydych wedi'ch cofrestru fel gofalwr di-dâl gyda'ch meddyg teulu, cwblhewch y ffurflen ar-lein hon i gofrestru'ch manylion (agor mewn dolen newydd)

Cysylltir yn uniongyrchol â'r rhai sydd eisoes wedi'u cofrestru fel gofalwr di-dâl gyda meddyg teulu i dderbyn brechiad COVID ac nid oes angen iddynt wneud unrhyw beth pellach.

Arhoswch i gael eich gwahodd am eich brechiad a pheidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu neu fwrdd iechyd i ofyn am eich apwyntiad brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi, diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

I ddarganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ewch i GCliciwh yma i ddarganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro (agor mewn dolen newydd)

 

Cymhwyster grŵp blaenoriaeth 6

I gael mwy o wybodaeth am grwpiau risg clinigol 16 oed a hŷn a ddylai dderbyn imiwneiddiad COVID-19 fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6, gweler Tabl 3 yma hgweler Tabl 3 yma (agor mewn dolen newydd).

Cyfanswm o frechiadau pob sir - rhifyn 9

Grŵp Blaenoriaeth 

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf Canran derbyn dôs gyntaf Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 41 1.6%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,168 90.7% 1,950 55.8%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,545 99.3% 24 0.1%

P2.2 & 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

22,100 96.9% 13,758 60.3%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,126 92.9% 40 0.2%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn

24,460 93.0% 35 0.1%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,218 83.0% 44 0.4%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

19,643 82.3% 23 0.1%
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl 8,584 19.2% 487 1.1%
P7 - Pob un 60 oed a hŷn 601 3.1% 15 0.1%

Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

1,555 1.0% 626 0.4%

Total:

132,234 34.1% 17,100 4.4%

 

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: