Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 8 - Cyhoeddwyd 3 Mawrth 2021

Croeso i’r wythfed rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Yr wythnos hon mae 8,455 o ddosau cyntaf wedi'u dosbarthu ac mae dosau 4,414 o’r ail ddos wedi'u cwblhau. Dros y penwythnos, cyflawnodd y rhaglen genedlaethol y miliwnfed dos, sy’n gyflawniad rhyfeddol dim ond 11 wythnos ar ôl i’r dos cyntaf gael ei gyflwyno yng Nghymru.

Ar draws ein tair sir yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro rydym bellach wedi dosbarthu dos cyntaf i 31.3% o'n poblogaeth ac mae 2.3% wedi derbyn dau ddos o'r brechlyn.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi cadarnhau ble a phryd y bydd pobl mewn grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 yn derbyn y brechlyn.

Gall trigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro mewn grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 ddisgwyl derbyn eu brechlyn fel a ganlyn:

  • Grŵp 5, pobl 65 - 69 mlwydd oed – yn cael ei weinyddu gan feddygfeydd teulu rhwng 15 Chwefror a 12 Mawrth
  • Grŵp 6, pobl 16 i 64 mlwydd oed gyda chyflyrau iechyd sylfaenol a gofalwyr di-dâl - yn cael ei weinyddu gan feddygfeydd teulu rhwng 22 Chwefror a 4 Ebrill
  • Grŵp 7, pobl  60 - 64 mlwydd oed – yn cael ei weinyddu gan ganolfannau brechu torfol yn cychwyn 8 Mawrth
  • Grŵp 8, pobl  55 - 59 mlwydd oed - yn cael ei weinyddu gan ganolfannau brechu torfol yn cychwyn 22 Mawrth
  • Grŵp 9, pobl 50 - 54 mlwydd oed - yn cael ei weinyddu gan ganolfannau brechu torfol yn cychwyn 5 Ebrill

Ar hyn o bryd mae gan y bwrdd iechyd ganolfannau brechu torfol wedi'u lleoli yn Aberystwyth, Aberteifi, Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod, Caerfyrddin a Llanelli.

Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu neu fwrdd iechyd i ofyn pryd y byddwch chi'n derbyn brechlyn. Cysylltir â chi'n uniongyrchol pan fydd eich tro chi. Diolch.

Gofalwyr di-dâl

Diolch i'n cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, mae dros 10,000 o bobl ar draws ein tair sir wedi cofrestru fel gofalwr di-dâl. Os ydych wedi'ch cofrestru ac yn cwrdd â'r meini prawf a nodir isod, bydd eich meddyg teulu yn cysylltu â chi i dderbyn brechlyn a gofynnwn yn garedig i chi beidio â chysylltu â'ch meddyg teulu ar yr adeg hon.

Mae yna lawer o wahanol sefyllfaoedd gofalu. Gallai gofalwr fod yn rhywun sy'n gofalu am blentyn ag anabledd neu'n gofalu am riant oedrannus, rhywun sy'n cefnogi partner â chamddefnyddio sylweddau neu broblem iechyd meddwl. Er gwaethaf y gwahanol rolau gofalu hyn, mae pob gofalwr yn rhannu rhai anghenion sylfaenol. Mae angen gwasanaethau arnynt hefyd i adnabod yr unigolyn ac anghenion sy'n newid trwy gydol eu taith ofalgar.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau gofal a thimau brechu bwrdd iechyd i ddatblygu ffurflen ar-lein i bobl sydd heb gofrestru fel gofalwr di-dâl (gyda meddyg teulu neu awdurdod lleol) gael eu hadnabod. Bydd y ffurflen ar gael o'n gwefan https://hduhb.nhs.wales/ o ddydd Llun 8 Mawrth.

Gofalwyr yw'r ffynhonnell fwyaf o ofal a chefnogaeth ac mae er budd pawb eu bod yn cael eu cefnogi. Wrth benderfynu pa ofalwyr di-dâl y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer brechu, mae tri ffactor pwysig i'w hystyried:  

Pa mor agored i niwed yw'r person sy'n derbyn gofal:

  • yn 65 oed ac yn hŷn (grŵp 5)
  • yn cael ei ystyried yn hynod o agored i niwed yn glinigol (grŵp 4)
  • â chyflwr iechyd isorweddol diffiniedig gan gynnwys salwch meddwl (yn gymwys o dan grŵp 6)
  • yn blentyn o dan 16 oed sydd ag anghenion meddygol cymhleth/niwro-anableddau difrifol
    • Mae natur y gofal a ddarperir i'r rhai 16 oed ac yn hŷn:
      • yn cynnwys helpu gyda bwyta, ymdrochi, eillio, rheoli ymataliaeth, gwisgo a cherdded ond heb fod yn gyfyngedig i'r uchod. Gall gynnwys ymyrryd mewn ymddygiad heriol neu ymddygiad sy'n peri risg.Gall gynnwys darparu lefelau sylweddol o gymorth a goruchwyliaeth gartref neu yn y gymuned a lle nad yw cadw pellter cymdeithasol yn bosibl.
  • Mae natur y gofal a ddarperir i blant o dan 16 oed sydd ag anghenion meddygol cymhleth/niwro-anableddau difrifol:
    • y tu hwnt i'r gofal a'r cymorth y mae rhieni fel arfer yn eu darparu ar gyfer plentyn. Mae'n debygol o gynnwys tasgau fel gofal tiwb traceostomi,  sugnedd llwybr anadlu, adleoli i reoli mannau pwyso ac ymyriadau gofal megis ffisiotherapi anadlol. Gall gynnwys gofal personol dwys megis ymolchi dyddiol a gofal ymataliaeth a/neu reoli ymddygiadau heriol.
  • Y gofalwr di-dâl yw'r unig ofalwr neu'r prif ofalwr:
    • Rydym yn cydnabod y gall gofalu am rai pobl ei gwneud yn ofynnol i ddau berson gynorthwyo gyda thasgau fel lleoli, codi, ymdrochi a newid. Efallai y bydd trefniadau lle mae dau berson yn rhannu'r cyfrifoldebau gofalu'n gyfartal. Mewn achosion o'r fath, gellir ystyried y ddau ofalwr di-dâl fel y prif ofalwyr. 

Ni fydd gofalwyr ifanc o dan 16 oed yn cael cynnig y brechiad.  Nid oes unrhyw blant o dan 16 oed yn cael eu brechu, oni bai o dan amgylchiadau eithriadol oherwydd anableddau niwrolegol difrifol.

Wrth baratoi ar gyfer cynnydd posibl yn nifer y bobl sy'n nodi eu hunain yn ofalwyr di-dâl yn ein cymuned, mae'r bwrdd iechyd yn edrych ar botensial comisiynu capasiti ychwanegol ar gyfer ein darparwyr trydydd sector fel y gallant gynnig gwybodaeth a chyngor i ofalwyr sydd newydd eu hadnabod.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

Cymhwyster grŵp blaenoriaeth 6

I gael mwy o wybodaeth am grwpiau risg clinigol 16 oed a hŷn a ddylai dderbyn imiwneiddiad COVID-19 fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6, gweler Tabl 3 yma (agor mewn dolen newydd)

Rhifau brechlyn awdurdodau lleol - rhifyn 8

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf Canran Derbyn Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs Canran Derbyn

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy’n oedolion hŷn

2,489 96.4% 40 1.5%

P1.2 – Gweithwyr cartrefi gofal

3,137 89.8% 1,218 34.9%

P2.1 – Pob un 80 oed a hŷn

22,463 98.9% 16 0.1%

P2.2 & 2.3 – Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

21,561 94.5% 7,072 31%

P3 – Pob un 75 oed a hŷn 

18,019 92.3% <10 0%

P4.1 – Pob un 70 oed a hŷn

24,252 92.2% <10 0%

P4.2 – Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,040 81.2% <10 0%

P5 –  pawb sy'n 65 oed a hŷn

16,161 67.7% <10 0%
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl 2,461 5.5% <10 0%

Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

1,562 1% 388 0.2%

Cyfanswm:

121,278 31.3% 8,865 2.3%

 

Cleifion dialysis arennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymhlith y cyntaf yn y DU i dderbyn brechlyn COVID-19

Mae cleifion dialysis sy'n mynychu ysbytai Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg ymhlith y cleifion dialysis cyntaf i dderbyn eu brechlyn COVID-19 yn y DU.

Ers dechrau'r pandemig, mae pobl sy'n derbyn triniaeth dialysis arennol wedi byw mewn ofn o COVID-19. Mae cleifion â methiant yr arennau yn cael eu hystyried yn hynod agored i niwed i'r feirws, ond ni allant ynysu oherwydd bod rhaid iddynt fynd i uned dialysis dair gwaith yr wythnos i gael triniaeth achub bywyd.

Mae cyfran uchel yn dibynnu ar gludiant i'r ysbyty, sydd hefyd yn effeithio ar eu gallu i ynysu, a byddent wedi cael anhawster i gael gafael ar apwyntiadau brechu cymunedol oherwydd eu hamserlenni triniaeth.

Fodd bynnag, mae cleifion dialysis ledled De Orllewin Cymru bellach wedi derbyn eu dos cyntaf yn gyflym oherwydd rhaglen a ddyluniwyd i frechu wrth fynychu sesiynau dialysis rheolaidd.

Wrth siarad am eu profiad drwy’r pandemig, dywedodd un claf, “Rydyn ni wedi byw mewn ofn oherwydd bod pobl ar ddialysis sy’n dal COVID yn llawer mwy tebygol o fynd yn sâl iawn neu farw.”

Dywedodd yr Athro Chris Brown, Fferyllydd Arennol Ymgynghorol: “Mae data’n dangos bod gan y cleifion hyn risg llawer uwch o farwolaeth o Covid-19 na’r boblogaeth yn gyffredinol.

Nid yw triniaeth ar gyfer y grŵp hwn o gleifion wedi dod i ben yn ystod y pandemig gyda dros 1,200 o driniaethau dialysis yr wythnos yn cael eu darparu gan ein gwasanaeth ym myrddau iechyd prifysgolion Hywel Dda a Bae Abertawe.

“Unwaith i ni gael caniatâd gan dîm brechu Hywel Dda i gyflwyno ar frys, fe wnaethom ni anfon tîm o'r unedau arennol i roi'r brechlyn i gleifion wrth iddynt gael eu triniaeth dialysis.

“Bu i Fferyllwyr arennol gyfeillio â nyrs arbenigol ym mhob un o ganolfannau dialysis y rhanbarth.

“Dangosodd hyn, er gwaethaf yr heriau, fod rhoi’r brechlyn mewn unedau dialysis yn sicr yn bosibl.

“Dangosodd cyflwyno rhaglen mor effeithiol ar draws ardal wledig yn Hywel Dda y gallai canolfannau dialysis eraill ledled y DU ddilyn yr esiampl.”

Dywedodd Chris “Cydsyniodd dros 99% o gleifion i’r brechlyn sy’n hynod o uchel ac yn llawer uwch nag y disgwyliwyd.

“Rwy’n credu bod hyn oherwydd y ffaith bod y brechlyn yn cael ei roi gan y staff sy’n gofalu am y bobl hyn yn wythnosol ac sy’n deall eu hanghenion gofal cymhleth.

“Roedd cyflwyno'r rhaglen frechu yn hynod effeithiol. Gweithiodd y tîm i gael y dos cyntaf i bobl dros ychydig ddyddiau ac ni wastraffwyd dos sengl o’r brechlyn.’’

Gallwch ddarllen y datganiad yn llawn yma (agor mewn dolen newydd)

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
Yr wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: