Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 4 – Cyhoeddwyd 3 Chwefror 2021

Croeso i’r pedwerydd rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Rydym yn falch o adrodd, ers dechrau’r rhaglen frechu, mae 52,923 o bobl yn ardal Hywel Dda wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn, sy’n 13.7% o’n poblogaeth.

Mae meddygfeydd hefyd wedi bod yn brysur yn brechu preswylwyr cartrefi gofal oedolion hŷn. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y bwrdd iechyd fod tua 85.7% o oedolion hŷn mewn cartrefi gofal cymwys wedi cael eu brechu ac mae'r ffigwr hwn wedi codi ymhellach yr wythnos hon i 92.1%.

Dywed Prif Weithredwr BIP Hywel Dda, Steve Moore: “Ein nod yw cynnig y brechlyn i 100% o’r bobl yn y grwpiau blaenoriaeth ac yn realistig rydym yn disgwyl brechu tua 75% o'r boblogaeth. Felly mae'r nifer uchel sy'n manteisio ar y brechlyn yn y grwpiau blaenoriaeth - lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i amddiffyn y rhai mwyaf bregus rhag marwolaeth neu niwed difrifol o COVID-19 - yn galonogol iawn, ac rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y targed o gynnig brechu i bobl yn y grwpiau blaenoriaeth 1-4 erbyn canol mis Chwefror.

“Rydym yn cyflwyno’r rhaglen frechu hon mor gyflym ag y gallwn, gyda thimau’n gweithio’n ddi-flino, ac yn defnyddio ein holl gryfderau fel system iechyd integredig. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cyrraedd pawb yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf cyn gynted â phosib a hynny mor agos â phosib at eu cartrefi, gan gydnabod y gwahanol fathau o frechlyn sydd ar gael inni a'r lefelau cyflenwi tebygol. Dyna pam y bydd rhai grwpiau’n cael eu brechu yn eu meddygfa leol gan feddygon teulu ac eraill mewn canolfannau brechu torfol, weithiau ar yr un pryd.”

 

* adroddir yn genedlaethol fel 2,006 + data cofnodedig lleol o 372
**  Mae 4,078 o frechiadau heb eu gosod eto yn eu grwpiau blaenoriaeth ar y system genedlaethol 

Grŵp Blaenoriaeth Nifer â frechwyd Canran derbyn
P1.1 - Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn *2,378 92.1%
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal 2,947 84.3%
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn 19,026 83.8%
P2.2 & 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol 17,280 82.3%
P3 - Pob un 75 oed a hŷn  5,142 26.3%
P4.1 -Pob un 70 oed a hŷn 1,286 4.9%
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol 477 4.8%
Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu** 4,078 2.6%
Cyfanswm: 52,923 13.7%

Cyfanswm brechu ym mhob sir:

  • Sir Gaerfyrddin - 24,866 (13.2%)
  • Ceredigion - 9,530 (13.1%)
  • Sir Benfro - 15,986 (12.7%)
  • 2,541 arall – heb eu dyrannu i sir neu staff sy’n gweithio i ni ond sy’n byw y tu allan i’r tair sir 

Oriel o Straeon

Mae'r oriel isod yn cynnwys y straeon canlynol, cliciwch 'darllen mwy' i'w gweld.

 

 

 

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
Yr wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: