Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 34 - Cyhoeddwyd 1 Medi 2021

Croeso i rifyn 34 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda ar y brechlyn

Bydd y digwyddiad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae pob person 16 a 17 oed bellach wedi derbyn eu cynnig o frechlyn COVID-19, gyda'r holl apwyntiadau wedi'u hamserlennu erbyn diwedd mis Awst. Mae clinigau cerdded i mewn hefyd ar agor ym mhob canolfan brechu torfol (agor mewn dolen newdd) BIP Hywel Dda, gan gynnig cyfle i'r rheini gael eu brechu pan yn gyfleus.

Mae apwyntiadau yn cael eu trefnu ar gyfer pobl ifanc 12 i 15 oed sy'n gymwys i gael y brechlyn fel y nodwyd gan y JCVI. Os ydych chi o dan 16 oed, peidiwch â mynychu clinig cerdded i mewn. Dylid gwneud apwyntiad trwy ffonio 0300 303 8322 neu e-bostio COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Mae manteisio ar y cynnig o dderbyn y frechlyn yn bwysig i bawb, yn enwedig i bobl ifanc fel eu bod mewn risg is o effeithiau coronafeirws nawr ein bod yn gallu cymdeithasu mwy.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr:

 

Adleoli Canolfan Frechu Torfol Caerfyrddin

Ddydd Gwener 3 Medi, bydd y ganolfan frechu dorfol sydd wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Santy ng Nghaerfyrddin yn symud o Ganolfan Gynadledda Halliwell i hen Feithrinfa Gamfa Wen ar yr un safle. Bydd arwyddion ar waith i gyfeirio pobl i'r lleoliad newydd.

Bydd y ganolfan ar gau tan ddydd Sul 5 Medi. Cyhoeddir amseroedd agor y ganolfan yn ei lleoliad newydd yn Gamfa Wen ar ein gwefan cyn gynted â phosibl. Gwelwch dudalen canolfannau brechu torfol (aogr mewn dolen newydd) am fwy o wybodaeth.

 

Diweddariad Fan Brechu Torfol

Yn dilyn llwyddiant ein fan brechu symudol mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (agor mewn dolen newydd), mae cynlluniau ar waith i ddychwelyd i leoliadau yr ymwelwyd â hwy o'r blaen i bobl dderbyn eu hail ddos o’r brechlyn. Bydd dosau cyntaf yn dal i fod ar gael o'r fan brechu torfol.

Darperir gwybodaeth bellach am amseroedd a lleoliadau cyn gynted â phosibl ar ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol a'r cyfryngau lleol.

 

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,167 84.0%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,503 100.3% 3,315 94.9%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,850 100.0% 22,082 96.6%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,999 99.2% 25,077 95.7%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,707 95.9% 18,360 94.1%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,078 95.4% 24,680 93.9%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,783 88.7% 8,449 85.3%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,741 91.0% 21,369 89.5%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

39,215 87.9% 37,271 83.5%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,467 69.2% 13,265 68.2%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,985 80.6% 14,662 78.8%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

15,525 95.5% 15,090 92.8%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

77,978 50.8% 62,586 40.7%
45 - 49 oed 11,189 70.8% 10,641 67.3%
40 - 44 oed 10,627 69.9% 9,798 64.5%
35 - 39 oed 11,173 69.2% 9,948 60.0%
30 - 34 oed 11,450 67.3% 9,654 55.3%
25 - 29 oed 10,849 62.2% 8,757 50.2%
20 - 24 oed 12,939 68.6% 9,836 52.1%
15 - 19 oed 9,693 64.2% 3,949 26.2%
Cyfanswm: 290,321 75.0% 268,373 69.3%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 34

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: