Croeso i rifyn 32 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda ar y brechlyn
Bydd y digwyddiad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae ein fan brechu symudol, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn mynychu Sioe Sir Benfro yr wythnos hon.
Bydd y tîm brechu yn gallu cynnig dosau cyntaf ac ail i unrhyw un a hoffai gael eu brechlyn a byddant hefyd wrth law i sgwrsio â phobl am y rhaglen ffliw sydd ar ddod.
Mae angen eich help arnom ar frys i sicrhau bod ein stociau o Moderna yn cael eu defnyddio.
O heddiw ymlaen (Awst 18), rydym yn galw ar bobl a gafodd eu dos cyntaf o Moderna chwe wythnos yn ôl neu fwy, i ddod ymlaen i dderbyn eu hail ddos.
Os nad ydych wedi cael eich dos cyntaf eto, a'ch bod yn 18 oed neu'n hŷn, dewch ymlaen hefyd fel y gallwn ddefnyddio'r holl frechlyn sydd ar gael inni.
Ewch i'ch canolfan cerdded i mewn agosaf (agor mewn dolen newydd) (nid oes angen apwyntiad) i dderbyn eich dos. Mae'r canolfannau ar faes Sioe Caerfyrddin (gyrru trwodd) Archifau Sir Benfro, Dafen a Thomas Parry.
Yn dilyn diweddariad yng nghyngor JCVI (yn agor mewn dolen newydd), mae byrddau iechyd yng Nghymru bellach yn gwahodd pawb sy'n 16 oed neu'n hŷn i gael eu brechu.
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro gallwch gael mynediad i'ch brechlyn COVID-19 yn y ffyrdd a ganlyn:
Mynychu clinig cerdded i mewn, nid oes angen apwyntiad. Ewch i'n tudalen canolfan brechu torfol (yn agor dolen newydd) i wirio pryd mae'ch canolfan brechu torfol agosaf ar agor **
Gwneud Apwyntiad:
** Yr wythnos nesaf byddwn yn ysgrifennu at y rhai 16 a 17 oed i wahodd i'w canolfan agosaf (ar wahân i Faes Sioe Caerfyrddin). Bydd y rhai yn y grŵp oedran hwn yn cael cynnig y brechlyn Pfizer / BioNTech (yn agor mewn dolen newydd).
Dywedodd y JCVI (agor mewn dolen newydd) y dylid cynnig brechlyn brechlyn Pfizer/BioNTech (agor mewn dolen newydd) i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed sydd â risg uwch o gael coronafeirws (COVID-19).
Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc gyda:
Mae'r JCVI hefyd yn argymell y dylid cynnig y brechlyn i'r rhai rhwng 12 a 15 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â gwrthimiwnedd.
Wythnos nesaf byddwn yn cysylltu (dros y ffôn) â theuluoedd y rhai rhwng 12 a 15 oed sydd mewn mwy o berygl i drefnu apwyntiadau.
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 2,167 | 84.0% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,494 | 100.0% | 3,289 | 94.1% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,847 | 100.0% | 22,055 | 96.5% |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
25,965 | 99.1% | 24,944 | 95.2% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,702 | 95.8% | 18,318 | 93.9% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
25,065 | 95.3% | 24,653 | 93.8% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,732 | 88.2% | 8,423 | 85.0% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,735 | 91.0% | 21,332 | 89.3% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
39,109 | 87.7% | 37,000 | 82.9% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,460 | 69.2% | 13,232 | 68.0% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,965 | 80.5% | 14,600 | 78.5% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
15,395 | 94.7% | 14,893 | 91.6% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
74,460 | 48.5% | 57,423 | 37.4% |
45 - 49 oed | 11,196 | 70.8% | 10,526 | 66.6% |
40 - 44 oed | 10,569 | 69.6% | 9,537 | 62.8% |
35 - 39 oed | 11,113 | 68.8% | 9,381 | 56.6% |
30 - 34 oed | 11,288 | 66.4% | 8,947 | 51.3% |
25 - 29 oed | 10,684 | 61.2% | 7,931 | 45.4% |
20 - 24 oed | 12,653 | 67.1% | 8,118 | 43.0% |
15 - 19 oed | 6,924 | 45.9% | 2,980 | 19.7% |
Cyfanswm: | 286,419 | 74.0% | 262,329 | 67.7% |