Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 21 - Cyhoeddwyd 2 Mehefin 2021

Ystadegau brechiadau COVID-19 - rhifyn 21

Croeso i rifyn 21 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro

Yn sgil ymdrechion ar y cyd canolfannau gofal sylfaenol a brechu torfol, cyflwynodd y bwrdd iechyd y 400,000fed brechlyn yr wythnos hon. Mae hyn yn golygu bod 260,447 o'n poblogaeth gymwys bellach wedi derbyn brechlyn cyntaf ac mae 147,439 bellach wedi derbyn cwrs llawn.

Diolch i bawb sydd wedi dod ymlaen am eu brechlyn hyd yma. Ein hamddiffyniad gorau yn erbyn pob math o Covid-19 yw ein rhaglen frechu a dyna pam mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i arafu lledaeniad amrywiadau a chaniatáu amser i gynifer o bobl â phosibl gael eu brechiad. Mae'n bwysicach fyth nawr derbyn y ddau ddos ​​o'r brechlyn pan gânt eu cynnig.

Mae'r brechlynnau'n cynnig amddiffyniad sylweddol rhag afiechyd difrifol, mynd i'r ysbyty a marwolaeth, a dyna pam ei bod yn hanfodol cael y ddau ddos ​​brechlyn cyn gynted ag y cynigir hwy.

Ni fyddwn yn gadael neb ar ôl. Gall pawb 18 oed neu drosodd neu mewn grwpiau blaenoriaeth JCVI 1 i 9 ofyn am un os nad ydych wedi derbyn apwyntiad eto neu wedi newid eich meddwl ar ôl gwrthod cynnig o frechlyn yn flaenorol, cysylltwch â'r bwrdd iechyd cyn gynted fel y bo modd fel y gellir trefnu apwyntiad i chi.

 

Sut i gysylltu â ni i gael eich brechlyn COVID-19 cyntaf:

Os ydych dros 18 oed neu yn un o grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 y JCVI a heb gael apwyntiad brechlyn cyntaf, gofynnwch am un cyn gynted â phosib trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon (agor mewn dolen newydd). Rydym yn deall na fydd gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd. Os na allwch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod lenwi ein ffurflen gais ar-lein, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322. Rhannwch y neges hon gyda ffrindiau, teulu a'ch cymuned leol i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

 

Apwyntiadau ail ddos

Mae apwyntiadau ail ddos ar gyfer brechiad COVID-19 fel arfer yn digwydd tua 11 wythnos ar ôl yr apwyntiad dos cyntaf. Mae'n hanfodol eich bod chi'n mynychu'ch apwyntiad ail ddos.

Os cawsoch eich dos cyntaf ar neu cyn 21 Mawrth ac nad ydych eto wedi derbyn eich gwahoddiad am ail ddos, defnyddiwch y ffurflen gais hon i roi gwybod i ni. Os na allwch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ddefnyddio ffurflen ar-lein, cysylltwch â'n tîm archebu ar 0300 303 8322.

 

Tystysgrifau Brechu ar gyfer teithio rhyngwladol

Mae tystysgrifau brechu ar gyfer teithio rhyngwladol bellach ar gael yng Nghymru ar gyfer y rhai sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn trwy ffonio 0300 303 5667 (ar agor saith diwrnod, rhwng 9am a 5pm).

 

Grŵp Blaenoriaeth

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 2,127 82.4%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,449 98.7% 3,068 87.8%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,837 99.9% 21,609 94.6%

P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

25,670 99.9% 22,368 87.0%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,675 95.7% 17,961 92.0%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn 

25,025 95.2% 24,121 91.7%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,678 87.6% 8,048 81.3%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

21,666 90.7% 19,587 82.0%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

38,080 85.3% 17,749 39.8%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

13,379 68.8% 7,384 38.0%

P8 - Pob un 55 oed a hŷn

14,767 79.4% 1,023 5.5%

P9 - Pob un 50 oed a hŷn

14,523 89.3% 787 4.8%

P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

51,239 33.2% 1,607 1.0%
Cyfanswm: 260,447 67.3% 147,439 38.1%

Cyfanswm brechiadau fesul sir - rhifyn 21

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: