Sut alla i lawrlwytho'r ap?

Mae'r ap ar gael ar gyfer ffonau clyfar yn unig - dim tabled, oriawr glyfar na dyfeisiau eraill.

I ddechrau, ewch i Google Play neu App Store Apple a chwiliwch am "NHS COVID-19". Rhaid bod gan y setiau llaw Android 6.0 (a ryddhawyd yn 2015) neu iOS 13.5 (a ryddhawyd ym mis Mai 2020) a Bluetooth 4.0 neu uwch. Mae hynny'n eithrio'r iPhone 6 a fersiynau hŷn o setiau llaw Apple.

Rhannwch: