Neidio i'r prif gynnwy

A ydych yn aros am glun neu ben-glin newydd? Yr hyn y mae angen i chi ei wybod...

Gosod pen-glin newydd

Mae llawdriniaeth i osod pen-glin newydd (arthroplasti) yn driniaeth gyffredin lle caiff cymal artiffisial ei gosod yn lle pen-glin sydd wedi treulio neu sy'n afiach.

Mae rhagor o wybodaeth am lawdriniaeth gan y GIG i osod pen-glin newydd ar gael ar wefan y GIG yma

 

Gosod clun newydd

Mae llawdriniaeth i osod clun newydd yn fath cyffredin o lawdriniaeth lle caiff cymal artiffisial (o'r enw mewnblaniad) ei gosod yn lle cymal y glun sydd wedi'i niweidio.

Mae rhagor o wybodaeth am lawdriniaeth gan y GIG i osod clun newydd ar gael ar wefan y GIG yma


Paratoi ar gyfer eich arhosiad yn yr ysbyty

Yn y diwrnodau cyn eich llawdriniaeth, bydd angen i chi wneud trefniadau teithio ar gyfer mynd i'r ysbyty a dod oddi yno, ynghyd â meddwl am yr hyn y dylid ei bacio i ddod gyda chi.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wneud ar gyfer eich arhosiad yn yr ysbyty ar gael ar wefan y GIG yma

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: