Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar gyfer rheoli eich symptomau a'ch poen

Galluogi hunanreolaeth ac ymdopi â phoen arthritig trwy ddefnyddio ymarfer corff

Mae Escape-pain yn rhaglen adsefydlu ar gyfer pobl â phoen cronig yn y cymalau, sy'n integreiddio hunanreolaeth addysgol a strategaethau ymdopi â threfn ymarfer corff unigol ar gyfer pawb sy'n cymryd rhan. Mae'n helpu pobl i ddeall eu cyflwr, yn addysgu pethau syml y gallant eu gwneud i'w helpu eu hunain, ac yn eu tywys trwy raglen ymarfer corff gynyddol fel y gallant ddysgu sut i ymdopi'n well â phoen.

Escape pain – hunanreolaeth ar gyfer poen Arthritig trwy ddefnyddio ymarfer corff – cofrestrwch ddwywaith yr wythnos yma

 

Rhaglenni Addysg i Gleifion (EPP)

Rydym yn darparu amrywiaeth o raglenni a gweithdai hunanreoli iechyd a llesiant am ddim ar eich cyfer os oes gennych gyflwr iechyd. Hefyd, yn achos y rhai sy'n gofalu am rywun â chyflwr iechyd, mae'r rhaglenni hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau ymdopi newydd a all helpu i wella ansawdd bywyd bob dydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhaglenni Addysg i Gleifion (EPP) ar gael yma

 

Cymru Versus Arthritis

Cymorth a gwasanaethau lleol ar gyfer pobl ag arthritis yng Nghymru. Yn darparu gwybodaeth, dealltwriaeth ac arbenigedd i'ch galluogi i ymdopi ag effaith arthritis, ac yn rhoi cyngor ar sut i wneud y gorau o fyw â'r cyflwr.

Mae rhagor o wybodaeth am Cymru Versus Arthritis ar gael yma

 

Versus Arthritis

Darganfyddwch ffyrdd o reoli eich symptomau, a'r modd y gall ymarfer corff a deiet iach eich helpu.

Mae rhagor o wybodaeth am Versus Arthritis ar gael yma (gwefan y DU – Saesneg yn unig)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: