Neidio i'r prif gynnwy

Beth os na fydd y gwasanaethau hyn yn gweithio? Beth nesaf?

Mae modd cwrdd ag anghenion cefnogaeth iechyd meddwl llawer o bobl trwy eu meddyg teulu, grŵp hunangymorth, neu trwy therapi arlein. Ond efallai y bydd ar rai pobl angen mwy o gymorth. Efallai y cewch eich cyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol neu at Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol. 

Os cewch eich cyfeirio at y naill neu’r llall o’r gwasanaethau hyn, nid yw hyn yn golygu bod eich problemau yn waeth na rhai pobl eraill, nac y cymer fwy o amser i chi wella. Y cyfan mae’n olygu yw y gall fod arnoch angen help mwy arbenigol i’ch cefnogi i wella.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gan gynnwys Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Triniaeth Cartref, y Tîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol  a gwasanaethau i gleifion mewn ysbytai, wedi parhau i ddarparu cefnogaeth yn ystod pandemig COVID-19. Fel rheol, bydd arnoch angen cyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol i fynd at y gwasanaethau hyn.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma am Gwestiynau Cyffredin i bobl sydd eisoes yn hysbys i’r gwasanaethau iechyd meddwl.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: