Gall mudiadau gofalwyr roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth berthnasol. Gallant wneud y canlynol:
- Rhoi rhywun i gael sgwrs â hwy
- Rhoi gwybod i chi am eich hawliau (gan gynnwys cyngor am fudd-daliadau lles)
- Helpu i gael asesiad gofalwr
- Eich helpu i ddatblygu cynllun sy’n cefnogi eich anghenion
- Eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau gofalwyr lleol fel y medrwch gysylltu â gofalwyr eraill
Mae’n bwysig i chi gofio eich bod yn gwneud eich gorau ar yr adeg anodd hon, felly byddwch yn garedig wrthych eich hun.