Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae siarad â'm plentyn am ei iechyd meddwl?

Gall cychwyn sgwrs fod yn anodd, yn enwedig os ydych chi'n poeni am eich plentyn a'r hyn y gallai fod yn ei deimlo. Y peth pwysicaf yw eich bod yn rhoi amser i siarad â'ch plentyn os ydyw yn dymuno. ‘Dio ddim llawer o ots beth yw’r pwnc a’r sgwrs i ddechrau - mae'n ymwneud â’r cyfle a gewch eich dau i siarad am deimladau a rhoi cysur i’ch gilydd.

Dyma ychydig o ffyrdd i gychwyn sgwrs:

  • Sut wyt ti'n teimlo?
  • Am beth wyt ti eisiau siarad?
  • Beth oedd darn gorau a gwaethaf dy ddiwrnod?
  • Pe gallet ddechrau heddiw eto, beth fyddet ti’n ei wneud yn wahanol? 
  • Beth wnes ti heddiw wyt ti’n fwyaf balch ohono?

Mae llawer o rieni yn ei chael yn ddefnyddiol dechrau sgwrs trwy ddewis pwnc y maent yn gwybod y byddai gan eu plentyn ddiddordeb ynddo. Efallai mai cân newydd sy'n sôn am emosiynau fydd y sbardun, neu gylchgrawn ag erthygl ddiddorol ynddo, ffilm y gwnaethoch chi wylio gyda'ch gilydd yn ddiweddar, neu stori mewn opera sebon ar y teledu. Mae hyn yn rhoi llai o ffocws ar y plentyn ac yn aml yn arwain at sgyrsiau naturiol am deimladau. Fel y soniwyd uchod, weithiau gall gwneud gweithgaredd hwyliog gyda'ch gilydd helpu hefyd am ei fod yn darparu amgylchedd hamddenol a chyffyrddus i ddechrau'r sgwrs.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: