Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen cefnogaeth arnaf ar unwaith; mae fy mehlentyn yn dioddeg creisis

Os ydych chi'n poeni'n fawr am iechyd meddwl eich plentyn ac yn teimlo bod angen help ar unwaith, rydym yn eich cynghori i geisio gweld eich meddyg teulu am apwyntiad brys. Gall eich meddyg teulu gysylltu â CAMHS i ofyn am asesiad brys os oes angen. Os yw eich meddygfa ar gau, gallwch gysylltu â'r meddyg teulu y tu allan i oriau. Os yw'ch plentyn mewn perygl o niweidio'i hun, neu mewn argyfwng oherwydd ei iechyd meddwl, mae gennych hefyd yr opsiwn o ffonio 999 neu fynd i'r Adran Achosion Brys yn eich ysbyty leol. Unwaith y bydd eich plentyn yn ffit yn feddygol i gael ei ryddhau, bydd yr Adran Achosion Brys yn atgyfeirio at CAMHS. Bydd yr Asesiad Risg Iechyd Meddwl yn cael ei gwblhau yn yr ysbyty neu yn swyddfa’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: