Neidio i'r prif gynnwy

Rwy'n teimlo fy mod i'n cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, ble alla i gael cefnogaeth?

Os ydych chi'n mynd trwy gyfnod anodd neu os ydych chi'n poeni am sut rydych chi'n teimlo, rydyn ni'n deall y gall hyn fod yn frawychus ac yn ofidus iawn. Mae’n bwysig sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun, a bod llawer o lefydd y gallwch chi gael gwybodaeth a chefnogaeth dda.

Cyngor

Os ydych yn teimlo'n barod, siaradwch gydag oedolyn dibynadwy neu ffrind agos am sut rydych yn teimlo, ac yn aml iawn maent yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gefnogaeth. Os ydych yn yr ysgol neu'r coleg, bydd cymorth cyfrinachol ar gael fel arfer, neu gymorth i gael mynediad at wasanaethau. Gallwch hefyd gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth trwy Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich Awdurdod Lleol.

Mae'r gefnogaeth y gallwch ei chael yn amrywio o ardal i ardal, yn dibynnu ar ble rydych yn byw, ond fe fydd Gwasanaeth CAMHS yn eich Sir leol. Y cam cyntaf tuag at gael help gan CAMHS fel arfer yw eich bod yn cael eich atgyfeirio am asesiad gan CAMHS. Gall yr atgyfeiriad (referral) hwn ddod gan eich rhieni / gofalwyr, neu chi eich hun os ydych chi'n ddigon hen (yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw). Mae gweithwyr proffesiynol fel athro neu feddyg teulu (bydd y mwyafrif o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ffôn) hefyd yn gallu atgyfeirio mewn rhai ardaloedd. Os ydych chi'n cael eich cefnogi gan y gwasanaethau cymdeithasol, tîm ieuenctid, neu wasanaeth yn eich ysgol, efallai y byddan nhw'n gallu eich cyfeirio chi hefyd.

Os nad ydych chi'n barod i siarad â rhywun rydych chi'n ei adnabod neu os ydych yn hunanynysu peidiwch â phoeni. Gallwch o hyd gael gafael ar linellau cymorth cyfrinachol ac adnoddau ar-lein defnyddiol. Mae Dewis Cymru yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi. Am ddolenni a gwasanaethau defnyddiol eraill a all helpu cliciwch yma.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: