Neidio i'r prif gynnwy

A oes pethau y gallaf i eu gwneud i deimlo'n well?

Mae pethau'n rhyfedd a gwahanol iawn ar hyn o bryd ac weithiau gall deimlo’n llethol ac anodd. Efallai y byddwch yn teimlo'n bryderus neu'n ansicr, a hyd yn oed yn drist ar brydiau. Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac mae bob un ohonom yn teimlo fel hyn weithiau, yn enwedig pan mae llawer o bethau’n newid a ninnau’n methu gwneud hyn y pethau y byddwn fel arfer yn eu gwneud. Pan mae’r teimladau hyn yn gwrthod diflannu ac yn digwydd yn aml gall fod angen mwy o gymorth arnoch (Mae rhagor o wybodaeth yng Nghwestiwn 2 a Chwestiwn 3).

Er mwyn helpu gyda'r teimladau hyn ac aros yn bositif ac yn iach, gallai rhai o'r pethau isod helpu.

Cadwch mewn cysylltiad

Mae'n bwysig iawn cadw mewn cysylltiad â'r rhai rydych chi'n eu caru ac yn ymddiried ynddynt. Gall fod yn anodd gyda'r cyfyngiadau sy’n rhwystro pobl rhag cyfarfod wyneb yn wyneb, ond gall sgwrs fer dros y ffôn neu alwad rithiol eich helpu chi i deimlo'n fwy cysylltiedig. Mae gallu siarad trwy'ch teimladau a chael teimlad o normalrwydd yn gallu gwneud ichi deimlo'n well. Mae llawer o blant a phobl ifanc heb gysylltiad rhyngrwyd neu ffôn symudol wedi dechrau ysgrifennu llythyrau i’w hanwyliaid neu wedi dod yn ffrindiau trwy lythyr, ac mae'n ffordd wych o gadw mewn cysylltiad ac yn rhywbeth y gall aelod o'ch teulu eich helpu i’w wneud.

Weithiau mae'n hawdd anghofio y gall cymorth fod yn nes atoch nag y tybiwch, ac mae bod gartref mwy gyda’ch teulu / gofalwyr / gwarcheidwaid yn rhoi mwy o amser i siarad a threulio amser gyda'ch gilydd. Rydyn ni i gyd eisiau dianc oddi wrth y byd tu allan weithiau, ond gall sgwrsio gyda'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw bob dydd wneud ichi deimlo'n fwy positif ac yn llai ar eich pen eich hun. Mae bod yn onest am eich teimladau gyda’ch teulu / gofalwyr/ gwarcheidwaid a thrafod sut y gallwch chi fod yn fwy cysylltiedig â'r bobl sy'n bwysig i chi yn gam cyntaf gwych.

Pwysig

Weithiau nid yw'r pethau y credwn eu bod yn ein cadw ni mewn cysylltiad ag eraill bob amser yn llesol inni. Gall treulio llawer iawn o amser ar gyfryngau cymdeithasol (social media) wneud inni deimlo’n ddrwg amdanom ein hunain. Er y gall fod yn ffordd dda o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, mae'n bwysig cofio nad yw pob un o'r delweddau a gwybodaeth a gyflwynir yn gywir nac yn adlewyrchiad cywir o fywydau pobl go iawn. Os byddwch chi'n dechrau teimlo fod eich hwyliau'n newid pan fyddwch chi'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, gallai fod yn syniad da cymryd hoe am ychydig ddyddiau a gwneud rhai o'r pethau eraill a awgrymir isod.

Cadwch yn egnïol

Mae ymchwil gwyddonol yn dweud wrthym mai un o'r ffyrdd gorau i deimlo'n dda yw gwneud ychydig o ymarfer corff. Nid yw ymarfer corff bob amser yn golygu cystadlu mewn campau, er bod hynny'n ffordd wych o deimlo'n dda. Weithiau gall mynd am dro neu loncian, chwarae mewn cae neu yn y parc, gwneud gweithgaredd corfforol adref, nofio, sgipio, rhedeg, dawnsio ac ati eich helpu. Gall gwneud ychydig bach bob dydd wella eich hwyliau a'ch hyder.

Mae'n dda clywed bod chwaraeon wedi'u trefnu dan do yn cychwyn yn ôl, a gallwch holi pa glybiau chwaraeon sydd ar agor yn eich ardal chi ac os oes unrhyw weithgareddau am ddim y gallwch chi gymryd rhan ynddynt trwy gysylltu â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.

Daliwch i ddysgu

Ffordd dda o gadw ein meddyliau yn weithgar mewn ffordd bositif yw rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu ddysgu sgil newydd. Mae bod gartref am ragor o amser yn gyfle da i wneud hyn. Mae llawer o bobl ifanc yn cymryd mwy o amser i ddarllen, arlunio / paentio / gwaith crefft, coginio / pobi, rhoi cynnig ar chwarae offeryn newydd neu ymarfer canu, dysgu iaith wahanol, ymuno â chlybiau ar-lein a grwpiau eraill ac ati.

Os oes rhywbeth rydych chi'n meddwl y byddech chi'n ei fwynhau, mae’n amser da i roi cynnig arni. Os oes angen rhywfaint o ysbrydoliaeth a syniadau arnoch chi, mae'n dda siarad am hynny gyda theulu a ffrindiau. Gall ysgolion a cholegau gynnig gwybodaeth a syniadau defnyddiol hefyd. Ac mae llawer o wybodaeth ar-lein.

Helpu eraill

Ar hyn o bryd, efallai yn fwy nag erioed, mae cyfleoedd i gefnogi pobl eraill. Mae ymchwil gwyddonol yn dweud wrthym y gall helpu rhywun arall newid sut rydyn ni'n teimlo amdanon ni'n hunain a gwella ein hwyliau a'n hyder. Mae llawer o elusennau a sefydliadau a fyddai wrth eu bodd yn derbyn eich cefnogaeth drwy wirfoddoli, a gallwch ganfod pa gyfleoedd sydd ar gael trwy holi eich Cyngor Gwirfoddoli Lleol.

Weithiau, y pethau lleiaf sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Gall cymryd yr amser i helpu o amgylch y tŷ, gwneud rhywbeth caredig, dweud diolch neu wrando ar ffrindiau a theulu / gofalwyr gael effaith gadarnhaol arnoch chi a'r person arall.

Cymrwch sylw

Ffordd dda o fod yn fwy ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd gyda'ch emosiynau yw meddwl am eich meddyliau a'ch teimladau wrth iddynt ddigwydd a chymryd sylw o'r pethau o'ch cwmpas pan fydd unrhyw newidiadau. Meddyliwch am yr hyn a welwch, a glywch, a aroglwch ac a flaswch o’ch cwmpas a sut yr ydych yn teimlo yn y foment honno. Mae llawer o bobl ifanc yn cael gwell hwyl ar wneud hyn mewn lle tawel a digynnwrf. Bydd rhai hefyd yn ceisio anadlu'n araf ac yn ddigynnwrf, â'u llygaid ar gau, i'w helpu i ymlacio. 

Gall cymryd yr amser hwn ein helpu i beidio â meddwl gormod am rai o'r pethau sy’n digwydd yn y byd ehangach o'n cwmpas, a gall ein helpu i ddelio â phryder a straen. Os hoffech ddysgu mwy, cliciwch yma i ymweld â'r wefan.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: