Neidio i'r prif gynnwy

Am ba hyd y bydd angen i fi aros yn yr ysbyty ar ôl cael toriad Cesaraidd?

Bydd hynny’n dibynnu i raddau helaeth iawn ar eich lles chi a lles eich babi:

  • Os byddwch chi a’ch babi yn iach, gallwch fynd adref drannoeth.
  • Os oes rheswm meddygol pam y dylech aros yn yr ysbyty, byddwch yn cael cymorth i fynd adref cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i chi wneud hynny.

Un o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros unrhyw oedi cyn mynd adref ar ôl cael toriad Cesaraidd yw problemau bwydo’r babi. I sicrhau eich bod yn llwyddo o’r dechrau i fwydo ar y fron, rydym yn argymell eich bod yn tynnu colostrwm o’r fron ac yn ei storio o wythnos 36 ymlaen.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: