Neidio i'r prif gynnwy

Sganiau

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn awr yn gallu symud i’r cam nesaf yn y broses o ddiweddaru ein polisi ynghylch ymweld. Er na fydd y drefn ymweld fel yr oedd cyn y pandemig Covid-19, rydym yn awr yn gallu gweithredu rhai o’r canllawiau a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

O ddydd Llun 3 Awst ymlaen bydd menywod yn gallu dod â’u partner, neu unigolyn arall a enwebwyd, gyda nhw i’w cefnogi pan fyddant yn cael eu sgan anomaleddau a drefnwyd (eu sgan 20 wythnos).

Er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a staff, gofynnir i fenywod a’u partner/unigolyn arall a enwebwyd:

  • cymryd camau i sicrhau hylendid eu dwylo – bydd hylif diheintio sy’n cynnwys alcohol yn cael ei ddarparu.
  • gwisgo masg wrth gyrraedd; gellir darparu masg iddynt.

Gallai’r camau uchod newid yn dibynnu ar y sefyllfa o safbwynt y pandemig COVID-19.

Yn anffodus, ni allwch ffilmio’r sgan na gwneud galwad fideo yn ystod yr apwyntiad.

Byddwch yn gallu prynu llun o’r babi.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: