Neidio i'r prif gynnwy

Epidwral

Nid oes unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu na ddylech gael epidwral neu analgesia yn eich cefn, os oes gennych y coronafeirws. Os ceir amheuaeth neu os cafwyd cadarnhad bod gennych y coronafeirws, byddem yn eich cynghori i ofyn am gael gosod epidwral yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, oherwydd:

  1. Bydd gosod epidwral yn cymryd mwy o amser oherwydd y ffordd y bydd angen i’r staff weithio mewn ystafelloedd, os ceir amheuaeth neu os cafwyd cadarnhad bod gennych y coronafeirws.
  2. Y cyngor yw y dylid osgoi anesthetig cyffredinol oni bai ei fod yn hollol angenrheidiol. Mae hynny’n golygu, pe bai angen i chi gael toriad Cesaraidd ar frys, y gallai fod yna oedi cyn bod modd i chi gael anesthesia sbinol.

Nodwch y bydd unrhyw enedigaeth frys drwy doriad Cesaraidd yn profi oedi yn achos menywod y ceir amheuaeth neu y cafwyd cadarnhad bod ganddynt y coronafeirws, hyd yn oed os nad oes angen ystyried materion sy’n ymwneud ag anesthesia. Y rheswm am hynny yw’r camau ychwanegol y bydd angen eu cymryd oherwydd y coronafeirws.

  • Os bydd angen i’ch babi gael ei ddadebru pan gaiff ei eni, byddwn yn ceisio darparu’r gofal y mae arno ei angen yn yr ystafell eni ond mae’n bosibl hefyd y bydd yn rhaid iddo gael ei symud allan o’r ystafell eni i ardal ddadebru.
  • Mae wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar bod menywod sydd â’r coronafeirws yn fwy tebygol o gael ceuladau gwaed ar ôl geni. Er mwyn lleihau’r risg y gallech ddatblygu ceulad gwaed ar ôl geni, bydd y tîm mamolaeth yn argymell cwrs o therapi gwrthgeulo ar sail eich amgylchiadau personol chi.
  • Yn ôl y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, dylai teuluoedd hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl i’r babi gael ei eni, os oes gennych symptomau’r coronafeirws.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: