Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth sy'n benodol i ferched yr amheuir neu a gadarnhawyd coronafirws

Hoffem eich sicrhau y byddwn yn parhau i gynllunio eich gofal mewn partneriaeth â chi hyd yn oed os bydd gennych symptomau’r coronafeirws yn ystod yr esgor.

  • Os bydd gennych symptomau ysgafn, byddwch yn cael eich annog i aros gartref yn ystod dechrau’r esgor. Bydd y fydwraig frysbennu’n trafod ac yn cynllunio hynny mewn partneriaeth â chi.
  • Yr hyn a argymhellir yn genedlaethol yw y dylai menywod y ceir amheuaeth neu y cafwyd cadarnhad bod ganddynt y coronafeirws esgor a geni yn yr ysbyty.
  • Rhaid nad oes gan eich partner geni symptomau’r coronafeirws. Byddwn yn gofyn i’ch partner geni beidio â gadael yr ystafell ar unrhyw adeg tra bydd gyda chi.
  • Pan fyddwch yn cael eich derbyn i’r ysbyty yn ystod yr esgor, bydd y tîm amlddisgyblaethol yn cael gwybod. Bydd y tîm hwnnw’n cynnwys yr obstetrydd ymgynghorol, cofrestrydd obstetrig, anesthetydd ymgynghorol, bydwraig â gofal, neonatolegydd ymgynghorol a nyrs newyddenedigol â gofal.
  • Yn ystod yr esgor, bydd eich arwyddion hanfodol yn cael eu monitro’n aml.
  • Yr hyn a argymhellir yn genedlaethol yw y dylai eich babi gael ei fonitro’n barhaus yn ystod yr esgor. Mae’r argymhelliad hwn yn seiliedig ar y wybodaeth sydd wedi’i rhannu o astudiaethau achos yn Tsieina. Mae’r astudiaethau achos hynny’n cyfeirio at 18 o fenywod a esgorodd tra oedd ganddynt y coronafeirws, ac maent yn esbonio bod 8 o’r babis a gafodd eu geni wedi profi trallod. Mae tystiolaeth am y coronafeirws yn cael ei chasglu drwy’r amser ac mae’r canllawiau yn cael eu hadolygu a’u diweddaru yn rheolaidd.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: