Neidio i'r prif gynnwy

A fydd y bydwragedd cymunedol yn dal i ddarparu gofal ar ôl geni?

Byddant – Bydd y bydwragedd cymunedol yn cynllunio eich gofal ar ôl geni gyda chi gan ystyried eich anghenion unigol. Os oes pryder am y coronafeirws yn eich cartref, bydd y bydwragedd yn cynllunio gyda chi’r ffordd orau o ddarparu eich gofal. Mae’r amserlen isod yn ganllaw i’r math o becyn gofal ar ôl geni a allai fod yn berthnasol i chi:

  • Bydd bydwraig yn ymweld â chi gartref drannoeth ar ôl i chi fynd adref.
  • Ar ddiwrnod 3 byddwch yn cael galwad ffôn/fideo er mwyn cael gwybod sut rydych chi a’ch babi. Bydd yr alwad hon yn eich helpu chi a’r tîm cymunedol i benderfynu a oes angen i chi weld gweithiwr iechyd proffesiynol.
  • Ar ddiwrnod 5 bydd y babi’n cael ei bwyso, a gyda’ch caniatâd chi bydd y prawf sgrinio smotyn gwaed yn digwydd.
  • Ar ddiwrnod 7 byddwch yn cael galwad ffôn/fideo er mwyn cael gwybod sut rydych chi a’ch babi. Bydd yr alwad hon yn eich helpu chi a’r tîm cymunedol i benderfynu a oes angen i chi weld gweithiwr iechyd proffesiynol.
  • Bydd y fydwraig yn cynllunio gyda chi pryd y byddwch yn cael eich rhyddhau i ofal y tîm o Ymwelwyr Iechyd.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: