NA FYDD – Er mwyn lleihau’r posibilrwydd y gallai’r feirws ymledu ac er mwyn cadw pawb yn ddiogel, nid oes hawl gan ymwelwyr ddod i’r ward. Mae hynny’n cynnwys partneriaid a phlant.
- Tra byddwch yn yr ysbyty cyn geni, byddwch yn cael eich gweld bob dydd gan obstetrydd ymgynghorol er mwyn asesu eich lles chi a lles eich babi ac er mwyn cynllunio eich gofal gyda chi.
- Os bydd angen i chi fynd â meddyginiaeth adref gyda chi, bydd hynny’n cael ei drefnu tra byddwch yn yr ysbyty a bydd yn barod erbyn y byddwch yn cael eich rhyddhau.