Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y dylwn i eu cymryd i geisio diogelu fy mabi rhag y coronafeirws?

Dyma’r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu hargymell ar hyn o bryd:

  • Glynu wrth argymhellion y Llywodraeth i aros gartref a pheidio ag ymweld â’ch teulu neu’ch ffrindiau
  • Golchi eich dwylo cyn cyffwrdd â’ch babi, eich pwmp tynnu llaeth o’r fron neu’ch poteli
  • Ceisio osgoi peswch neu disian dros eich babi
  • Ar ôl defnyddio unrhyw bwmp tynnu llaeth o’r fron, cofio ei lanhau bob tro fel yr argymhellir gan y gwneuthurwr
  • Sterileiddio offer a photeli’n ofalus bob tro cyn eu defnyddio
  • Peidio â rhannu poteli neu bympiau tynnu llaeth o’r fron â neb arall

Cliciwch yma i weld taflen y GIG yn Lloegr i rieni am y coronafeirws a babis newyddanedig

Pan fydd yn bryd codi’r cyfyngiadau presennol sy’n golygu cadw pellter cymdeithasol, argymhellir ar hyn o bryd y dylech osgoi cael llawer o bobl ynghyd i ddathlu genedigaeth eich babi, nes y bydd rhagor o wybodaeth ar gael am y modd y mae’r feirws yn ymledu.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: