Bydd hynny’n dibynnu ar eich lles chi a lles eich babi:
- Os byddwch chi a’ch babi yn iach ac os nad oes rheswm meddygol pam y dylech aros yn yr ysbyty, e.e. oherwydd toriad Cesaraidd, gallwch fynd adref yn syth o’r ward esgor (cyn pen 3-6 awr ar ôl yr enedigaeth fel rheol) neu gallwch ddewis aros ychydig yn hirach (8-12 awr) ar y ward ar ôl geni.
- Os oes rheswm meddygol pam y dylech aros yn yr ysbyty, byddwch yn cael cymorth i fynd adref cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i chi wneud hynny.
I’ch helpu i lwyddo o’r dechrau i fwydo ar y fron, rydym yn argymell eich bod yn tynnu colostrwm o’r fron ac yn ei storio o wythnos 36 ymlaen.