Neidio i'r prif gynnwy

A fydd yr apwyntiadau cyn geni rwyf wedi'u trefnu yn yr ysbyty yn parhau?

Byddant – Mae’n wirioneddol bwysig i ni eich bod yn cael y gofal y mae arnoch ei angen. Er mwyn lleihau’r graddau y mae’r feirws yn ymledu, rydym wedi gorfod newid y modd y caiff rhai apwyntiadau eu cynnal. Bydd angen i chi fynychu pob apwyntiad ar eich pen eich hun er mwyn i ni allu cadw pellter cymdeithasol ym mhob ardal aros. Gall eich partner ymuno â chi yn eich apwyntiadau gydag obstetryddion drwy ddefnyddio seinydd ffôn (gan ddefnyddio eich ffôn symudol chi – nid oes gennym ni gyfleusterau ffôn-gynadledda).

Rydym yn ymwybodol o’r newidiadau i gyngor Llywodraeth Cymru ynghylch presenoldeb partneriaid mewn apwyntiadau arferol cyn geni, ac rydym yn gweithio i sicrhau bod modd i hynny ddigwydd mor ddiogel ag sy’n bosibl. Fodd bynnag, nid yw’r drefn honno wedi dechrau eto. Peidiwch â mynychu eich apwyntiad gyda’ch partner heb wirio a yw’r newidiadau wedi cael eu cyflwyno.

Mae’n bosibl y byddwn yn eich ffonio ychydig ddiwrnodau cyn pob apwyntiad er mwyn i ni allu gofyn y 4 cwestiwn sgrinio isod i chi am y coronafeirws, neu mae’n bosibl y byddwn yn eu gofyn i chi cyn eich bod yn dod i mewn i’r clinig. Os byddwch yn rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau, bydd angen i ni aildrefnu eich apwyntiad:

  1. Oes gwres arnoch chi?
  2. Oes gennych chi beswch parhaus newydd?
  3. Ydych chi wedi colli eich gallu i flasu neu arogleuo?
  4. Ydych chi’n hunanynysu oherwydd eich bod chi neu rywun arall yn eich cartref yn dangos symptomau’r coronafeirws neu wedi cael cadarnhad bod gennych/ganddo’r coronafeirws?

Apwyntiadau gydag obstetryddion cyn geni – Byddwch yn cael llythyr a fydd yn rhoi gwybod i chi ar ba ddyddiad ac am faint o’r gloch y bydd eich apwyntiad, ac a fydd yr apwyntiad yn un wyneb yn wyneb neu’n un dros y ffôn/drwy alwad fideo.

Apwyntiadau obstetrig ar ôl sgan – Os ydych i fod i gael apwyntiad gydag obstetrydd ar ôl eich sgan, byddwch yn cael gwybod a fydd yr apwyntiad yn un wyneb yn wyneb neu’n un dros y ffôn/drwy alwad fideo. Ar ôl y sgan, bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gwirio eich pwysedd gwaed a’ch wrin, a bydd y wybodaeth honno ar gael i’r obstetrydd.

Brechiadau gwrth-D – Bydd yr apwyntiadau hyn yn parhau fel y cynlluniwyd, oni bai bod rhywun yn cysylltu â chi i nodi fel arall neu’ch bod yn rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau sgrinio am y coronafeirws.

Prawf Goddefiad Glwcos drwy’r Geg – Mae wedi newid i fod yn brawf gwaed a gynhelir yn ystod yr apwyntiad cofrestru, a gellir ei ailadrodd yn ystod yr apwyntiad 28 wythnos. Bydd angen i chi ymprydio cyn y prawf 28 wythnos ond ni fydd yn rhaid i chi aros 2 awr am ail brawf gwaed.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: