Neidio i'r prif gynnwy

A fydd apwyntiadau arferol gyda fy mydwraig gymunedol yn dal i ddigwydd?

Byddant – Yr hyn a argymhellir yn genedlaethol yw y dylai’r rhan fwyaf o apwyntiadau cyn geni barhau er mwyn gwneud yn siŵr bod y fam a’r babi yn iach.

Mae’n bosibl y bydd yr amserlen apwyntiadau ychydig yn wahanol ar gyfer menywod sydd ag anghenion penodol; bydd eich bydwraig neu’ch obstetryddion yn esbonio hynny i chi.

  • Bydd eich apwyntiad cofrestru yn digwydd dros y ffôn; bydd eich bydwraig gymunedol yn cysylltu â chi i’w drefnu, a bydd hefyd yn trefnu eich apwyntiad i gael sgan.
  • Os na allwch fynd i’ch sgan cyntaf neu’ch sgan anomaleddau oherwydd bod angen i chi hunanynysu, neu os byddwch yn dewis peidio â mynychu’r apwyntiadau ar gyfer y naill sgan neu’r llall, bydd y bydwragedd cymunedol neu’r clinig cyn geni yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.
  • Ar ôl eich sgan cyntaf, byddwch yn gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a fydd yn rhoi eich nodiadau cyn geni i chi, yn mesur eich pwysedd gwaed, yn cynnal profion gwaed perthnasol, yn gwneud prawf ar eich wrin ac yn cofnodi eich taldra a’ch pwysau.
  • Galwad ffôn fydd eich apwyntiad 16 wythnos.
  • Sgan uwchsain anomaleddau ffetws 18-22 wythnos. Bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwirio eich pwysedd gwaed a’ch wrin hefyd.
  • Apwyntiad 25 wythnos gyda bydwraig ar gyfer menywod sy’n dod yn famau am y tro cyntaf. Bydd eich bydwraig yn rhoi eich ffurflen MAT B1 i chi. Dylech nodi na allwn roi’r ffurflen i chi cyn yr apwyntiad hwn a bod yn rhaid iddi gael ei rhoi mewn apwyntiad wyneb yn wyneb. 
  • Apwyntiad 28 wythnos gyda bydwraig ar gyfer pob menyw.
  • Apwyntiad 32 wythnos gyda bydwraig ar gyfer pob menyw.
  • Apwyntiad 36 wythnos gyda bydwraig ar gyfer pob menyw.
  • Apwyntiad 38 wythnos gyda bydwraig ar gyfer menywod sy’n dod yn famau am y tro cyntaf.
  • Apwyntiad 40 wythnos gyda bydwraig ar gyfer pob menyw.
  • Apwyntiad 41 wythnos gyda bydwraig ar gyfer pob menyw.

Oni bai eich bod yn clywed gan eich tîm cymunedol, dylech fynychu’r apwyntiadau sydd wedi’u trefnu ar eich cyfer (oni bai eich bod yn teimlo’n anhwylus neu bod yn rhaid i chi hunanynysu). Bydd y tîm cymunedol naill ai’n cysylltu â chi ychydig ddiwrnodau cyn eich apwyntiad neu’n cysylltu â chi ar y diwrnod i roi gwybod i chi a yw’r lleoliad wedi newid ac i ofyn 4 cwestiwn i chi:

  1. Oes gwres arnoch chi?
  2. Oes gennych chi beswch parhaus newydd?
  3. Ydych chi wedi colli eich gallu i flasu neu arogleuo?
  4. Ydych chi’n hunanynysu oherwydd eich bod chi neu rywun arall yn eich cartref yn dangos symptomau’r coronafeirws neu wedi cael cadarnhad bod gennych/ganddo’r coronafeirws?

Os byddwch yn rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw un o’r 4 cwestiwn uchod, bydd angen i ni aildrefnu eich apwyntiad.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: