Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau'r colon a'r rhefr

Apwyntiadau adran cleifion allanol - Nawr yn cael eu danfon o fewn y bwrdd iechyd. Mae clinigau'n canolbwyntio ar ganser sy'n cael eu hamau ar frys ac achosion brys.

Apwyntiadau cleifion allanol wyneb yn wyneb yn parhau drwyddi draw

I'r cleifion sydd ddim angen ymgynghoriad wyneb yn wyneb, mae apwyntiadau ffôn yn cael eu cynnig.

Mae rhestrau theatr ar waith Ysbytai'r Tywysog Philip, Llwynhelyg a Bronglais ar gyfer achosion brys o ganser a gweithdrefnau brys.

Bydd clinigau rhithwir ar gael i gleifion sy'n defnyddio'r platfform Mynychu Unrhyw le.

Adran cleifion allanol - Trefnu apwyntiadau ffôn sy'n cael eu cynnig i gleifion nad oes angen ymgynghori wyneb yn wyneb, mae apwyntiadau cleifion allanol wyneb yn wyneb ar gael ar draws y bwrdd iechyd ar gyfer y cleifion hynny sydd eu hangen. Mae ffocws yn parhau i fod ar ganser sy'n cael ei amau ar frys ac achosion brys, ond mae rhai cleifion arferol, sy'n aros yn hir bellach yn cael eu gweld mewn clinig. Dim newid i drefniadau theatr.

Mae ail ymgynghorydd colorectal wedi dechrau yn Ysbyty Bronglais, gan ddod â chlinig ychwanegol a lle i gleifion brys sydd dan amheuaeth, cleifion brys a rhai rheolaidd.

 

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Bydd clinigau rhithwir ar gael i gleifion sy’n defnyddio’r platfform Mynychu Unrhyw Le.

 

Sut mae cysylltu â ni

Dylech gyfeirio at eich llythyr at glaf i gael y manylion cyswllt, neu gysylltu â thîm y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion ar 0300 0200159 neu drwy ebost: hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: