Neidio i'r prif gynnwy

Orthopteg - Gwasanaeth sgrinio golwg mewn ysgolion

Caiff pob plentyn 4-5 oed gynnig asesiad o’u golwg yn yr ysgol, a chaiff yr asesiad ei gynnal gan nyrsys ysgol a gweithwyr cymorth cymwys. Mae gan bawb sy’n cyflawni’r gwaith sgrinio gymwyseddau a brofwyd ym maes sgrinio golwg, yn unol â safonau Cymdeithas Orthopteg Prydain ac Iwerddon, ac maent yn defnyddio’r safon aur a argymhellir ar gyfer asesu golwg (sef prawf logMAR lle cyfyng). Caiff y gwasanaeth ei arwain gan orthoptyddion ac mae’n dilyn Llwybr Golwg Plant Cymru Llywodraeth Cymru ar gyfer plant 4-5 oed. Caiff rhieni wybod bod y prawf yn cael ei gynnal a gallant ddewis ei wrthod os ydynt yn dymuno. Byddant hefyd yn cael llythyr os yw eu plentyn wedi ei chael yn anodd cymryd rhan yn y prawf sgrinio golwg neu os oes angen iddo weld optometrydd.

Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01267 227448 neu 01554 783182 os oes gennych unrhyw gwestiynau am ganlyniad sgrinio eich plentyn ac am yr angen i’w atgyfeirio (bydd peiriant ateb ar gael i chi adael neges tra bydd clinigau’n cael eu cynnal).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: