Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn gwneud yn Hywel Dda

Rhwydwaith Iechyd Gwyrdd  

Mae Rhwydwaith Iechyd Gwyrdd Hywel Dda yn darparu cyfleoedd i staff ar draws y Bwrdd Iechyd i rannu syniadau, gwaith prosiect ac arbenigedd ym maes Iechyd Gwyrdd - gan weithio er budd staff, cleifion, ymwelwyr a'r byd byw naturiol. Fe’i sefydlwyd ym mis Hydref 2018 ac mae’n agored i unrhyw aelod o staff ar draws Hywel Dda.    

Nod y rhwydwaith yw:  

  • Creu cyfle i staff ddarganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn maes Iechyd Gwyrdd ar draws y sefydliad  
  • Hwyluso digwyddiadau chwemisol lle gall staff arddangos eu prosiectau, archwilio syniadau, cael ysbrydoliaeth a rhannu dysgu  
  • Darparu cefnogaeth i brosiectau Iechyd Gwyrdd i sicrhau hyfywedd a llwyddiant hirdymor  
  • Darparu fforwm ar gyfer dysgu a datblygu trwy ddod â siaradwyr allanol i mewn ar ystod o bynciau Iechyd Gwyrdd  

Os hoffech ymuno â’r Rhwydwaith a chael gwybodaeth ddigwyddiadau’r Rhwydwaith, anfonwch eich enw a’ch manylion cyswllt i wellbeing.hdd@wales.nhs.uk

Rhianta cynaliadwy

Rydym yn byw mewn cyfnod o argyfwng natur a hinsawdd. Fel dinasyddion mae gennym ni oll gyfrifoldeb i ofalu am ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Creodd un o’n bydwragedd yn Sir Benfro, Becci Johnson, boster yn cynnwys 10 Cam Gweithredu Newid Hinsawdd, i annog rhieni newydd i fod yn fwy cynaliadwy a dangos sut y gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr.

Mae'r poster yn cynnwys cyngor gwych gan gynnwys sut y gall cychwyn arferion newydd helpu pobl a'r amgylchedd. Un enghraifft yw bwydo ar y fron; cyfrifwyd y gallai'r arbedion carbon deuocsid a geir drwy gefnogi mamau i fwydo ar y fron yn unig yn y DU fod yn gyfwerth â thynnu dros 77,000 o geir oddi ar y ffordd bob blwyddyn.

Plannu coed yn Sir Benfro

Ar 19 Mawrth 2020 plannwyd 1,300 o goed yn nodi dechrau coetir newydd yn Sir Benfro lle mae pob coeden a blannwyd yn cynrychioli babi newydd a aned i deulu yn Sir Benfro. Ers hynny mae'r prosiect wedi parhau i blannu coeden ar gyfer pob babi sy'n cael ei eni i deulu o Sir Benfro. Mae'r coetir hwn yn creu cynefin newydd i fywyd gwyllt a lle newydd i bobl Sir Benfro. Bydd y coed hwn hefyd yn helpu i dynnu carbon deuocsid allan o'r atmosffer, lleihau erydiad pridd a lleihau perygl llifogydd. Mae'r prosiect yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Tir Coed, Coed Cadw a Chig Oen Sir Benfro (Pembrokeshire Lamb). Ceir rhagor o wybodaeth am y fenter isod:

Plant Sir Benfro - LNP Sir Benfro (agor mewn dolen newydd)

Plant Sir Benfro (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: