Neidio i'r prif gynnwy

Dolenni ac adnoddau defnyddiol

Mind  

Egluro buddion natur i iechyd meddwl a rhoi awgrymiadau a syniadau i roi cynnig arnynt. Darparu gwybodaeth ar raglenni ecotherapi ffurfiol. 

Ffynnu gyda Natur  

Mae Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd a Sefydliad Iechyd Meddwl wedi dod ynghyd i gynhyrchu canllaw i’ch helpu i ffynnu gyda  natur. Mae'r llyfryn 102 tudalen hwn sydd ar gael am ddim yn llawn awgrymiadau ar sut y gallwch chi gysylltu â natur trwy'r tymhorau.  

Cofleidio’r Awyr Agored: Canllaw i Weithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd  

Bwriad y canllaw hwn yw rhoi syniadau i ymarferwyr a staff gofal iechyd am weithgareddau sydd â chysylltiad â natur trwy gydol y flwyddyn y gellir eu cynnal ar ward.  

19 Ffordd o Gysylltu â Natur yn ystod Covid-19 

Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i fynd allan i’ch gardd neu i ddod mewn â natur!  

Ffyrdd Naturiol at Lesiant   

Fideo byr (1:49 munud) yn hyrwyddo’r 5 ffordd at lesiant gyda natur a gweithgareddau’r Ymddiriedolaeth Natur.    

Sut i weithio gartref a chysylltu â natur 

Blog byr gan yr Ymddiriedolaeth Natur ar rai ffyrdd hawdd i'ch helpu i gysylltu â natur, hyd yn oed yng nghanol diwrnod prysur! Mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud eich diwrnod ychydig yn fwy gwyllt.  

Canolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy 

Mae eu prosiectau mannau gwyrdd, yn enwedig Coedwig y GIG, yn cynorthwyo sefydliadau i wella eu hamgylchedd naturiol ac ailgysylltu eu staff, cleifion a'r gymuned ehangach â'u mannau gwyrdd lleol er budd eu hiechyd. 

Sylfaen tystiolaeth ar gyfer Mannau Gwyrdd y GIG 

Mae tystiolaeth ymchwil gynyddol yn ategu y bydd Mannau Gwyrdd y GIG yn helpu safleoedd i wireddu ystod eang o fuddion iechyd, cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol profedig. Mae'r rhain yn cynnwys adferiad cyflymach i gleifion, gwell iechyd cymunedol a chostau is.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: