CymraegEnglish

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn rhan o’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, elusen genedlaethol uchelgeisiol sy’n gweithio i wella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn ceisio creu gwell dyfodol gydag ac ar gyfer gofalwyr yng Nghymru trwy godi ymwybyddiaeth, grymuso gofalwyr a dylanwadu ar newid.

Gweithiwn yn agos ac ar y cyd gyda’n Partneriaid Rhwydwaith – elusennau annibynnol lleol a rhanbarthol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Y llynedd, cyrhaeddodd ein Partneriaid Rhwydwaith fwy na 36,000 o ofalwyr yng Nghymru.

Mwy am ofalwyr yng Nghymru

Gwyddom fod o leiaf 370,000 o ofalwyr yng Nghymru (sydd 10% yn fwy na phoblogaeth Caerdydd) ac y daw 3 o bob 5 ohonom yn ofalydd ar ryw adeg yn ein bywydau.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob gofalydd yn derbyn y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth maen nhw’n eu haeddu.

Gofalwyr Di-dâl yng Nghymru a Derbyn Cymorth Ariannol a Statudol: adroddiad gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Nid ydym yn credu y dylai unrhyw ofalydd gael eu gwthio i dlodi gan eu rôl ofalu. Mae ein hadroddiad yn mynd i’r afael â her caledi ariannol yng nghyd-destun cymorth ehangach i ofalwyr di-dâl, ac mae’n ceisio deall sut mae awdurdodau lleol yn gweithredu polisi Cymreig law yn llaw â gwaith gan Lywodraeth y DG.

DARLLENWCH YR ADRODDIAD YN SAESNEG

DARLLENWCH YR ADRODDIAD YN GYMRAEG

Amser, Cynllun Seibiannau Byr

Gall gofalwyr di-dâl wneud cais am seibiant byr wedi’i dalu amdano i ffwrdd o’u rôl ofalu. Mae cynllun Amser yn gobeithio rhoi cyfle i 30,000 o ofalwyr gymryd seibiant erbyn 2025.

Darllenwch fwy am gynllun Seibiannau Byr Amser

Cronfa Cefnogi Gofalwyr

Mae gwasanaethau cefnogi ychwanegol a grantiau ar gael i ofalwyr di-dâl erbyn hyn yn ardal pob awdurdod lleol, diolch i’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr. 

Darllenwch fwy am raglen Cefnogi Gofalwyr Cymru

Prosiect Ymwybodol o Ofalwyr

Mae’r prosiect ar y cyd hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ceisio grymuso gofalwyr di-dâl i chwarae rhan weithgar yn y penderfyniadau sy’n eu heffeithio nhw a’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt.

Dysgwch fwy am brosiect Ymwybodol o Ofalwyr

Gofalwyr ifanc ac addysg

Mae gofalu yn effeithio ar gymaint o agweddau o brofiad person ifanc yn yr ysgol neu goleg. Gall lleoliadau addysg chwarae rôl allweddol yn adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc, a bydd ein hadnoddau yn helpu.

Mwy am ofalwyr ifanc ac addysg yng Nghymru

Polisi a dylanwad

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn mynd ati i ddylanwadu ar bolisi, deddfwriaeth a phrosesau comisiynu er lles gofalwyr a’n Partneriaid Rhwydwaith.

Dysgwch fwy am sut rydym yn dylanwadu ar bolisïau

Y Rhwydwaith yng Nghymru

Rydym yn partneru gyda mudiadau gofal lleol, ac yn cydweithio i sicrhau bod gofalwyr di-dâl ar draws Cymru yn cael gwasanaethau a chefnogaeth o ansawdd uchel.

Darllenwch fwy am ein Partneriaid Rhwydwaith yng Nghymru

Codi arian

Gyda’ch help chi, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Os ydych yn chwilio am bartneriaeth gorfforaethol nesaf eich mudiad, neu’n gobeithio trefnu neu gymryd rhan mewn digwyddiad codi arian, gallwch ddod o hyd i ffyrdd i gefnogi ein gwaith.

Darllenwch am godi arian i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Cwrdd â’r tîm

Cyfarwyddydd Cymru
Kate Cubbage

Pennaeth Materion Allanol
Dr Catrin Edwards

Rheolydd Swyddfa
Anna Morgan

Rheolydd Datblygu Rhwydwaith 
Cath Phillips

Arweinydd Rhaglenni Cymru
Carly Gray

Arweinydd Cynllun Seibiannau Byr
Liz Wallis

Rheolydd Codi Arian
Nerys Sales

Swyddog Polisi a Materion Allanol
Catrin Glyn

Swyddog Prosiect
David Zilkha

Swyddog Prosiect
Daisy Cole

Swyddog Rhaglenni
Angela Tillcock

Swyddog Rhaglenni
Ari Johnson

Swyddog Cyfathrebu
Judith Wood

Cysylltwch â ni
wales@carers.org
0300772 9702

Cyfleoedd yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Cymru

Ymunwch â’n tîm a gwnewch wahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr di-dâl a’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt.

Dyma’r cyfleoedd sydd ar gael yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar hyn o bryd

Cwestiynau mwyaf cyffredin