Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw darparu amgylchedd gwaith cefnogol i staff sy'n gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind yn eu bywydau personol.
‘Mae gofalwyr yn weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol sy’n cael effaith sylweddol ar eu bywyd gwaith. Mae’r gweithwyr hyn yn gyfrifol am ofal a chefnogaeth perthnasau neu ffrindiau hŷn, anabl neu sâl nad ydynt yn gallu gofalu amdanynt eu hunain’. (Diffiniad Gofalwyr)
Mae yna ymrwymiad i greu diwylliant sefydliadol sy'n caniatáu i staff fod yn agored am eu sefyllfa ac i greu diwylliant yn y gweithle sy'n gefnogol i Ofalwyr gan eu galluogi i barhau i weithio a gofalu.
Ewch i'r ddolen isod i ddarganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael yn fewnol ac yn allanol
Cliciwch yma am wybodaeth i staff sy'n ofalwyr (agor mewn dolen newydd)