Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at Ffisiotherapi yn Sir Benfro

Manylion Cyswllt:

Rydym ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener o 8.30am – 4.30pm Cysylltwch â ni drwy’r manylion isod: 

Adran Ffisiotherapi, Ysbyty Llwynhelyg, Heol Abergwaun, Hwlffordd, SA61 2PZ
Rhif Ffôn: 01437 773260

Ysbyty De Sir Benfro, Fort Road, Doc Penfro, SA72 6SY 
Rhif Ffôn: 01437 774030


Mae dwy ffordd y gallwch gyrchu’r gwasanaeth yn Sir Benfro:

 

Sut i gyfeirio at ffisiotherapi:

Gallwch gyfeirio eich hun at Ffisotherapi: trwy lenwi'r ffurflen ar-lein isod. Os ydych yn cael problemau yn cwblhau’r ffurflen, cysylltwch â ni ar y rhifau ffôn uchod, neu ebostio ni ar: WGHPhysioReferral.HDD@wales.nhs.uk

Cwblhewch y ffurflen hunan-atgyfeirio ar-lein hon i gael mynediad at Wasanaeth Ffisiotherapi Sir Benfro (agor mewn dolen newydd).

Ar ôl i ni dderbyn eich atgyfeiriad, bydd uwch aelod o'r tîm wedyn yn penderfynu a yw'r atgyfeiriad yn un brys neu arferol yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir.

Gallwch gael eich cyfeirio am ffisiotherapi gan feddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall (ymarferydd, nyrs, podiatrydd, therapydd galwedigaethol neu ffisiotherapydd)

Ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad gan eich meddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol, bydd uwch aelod o'r tîm wedyn yn penderfynu a yw'r atgyfeiriad yn un brys neu arferol yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir. Ein nod yw gweld atgyfeiriadau brys o fewn pythefnos ac atgyfeiriadau arferol cyn pen 14 wythnos ar ôl derbyn y ffurflen.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: