Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau i blant - paratoi eich plentyn ar gyfer yr ysbyty

Sut i baratoi eich plentyn ar gyfer yr ysbyty

Gall fynd i ysbyty fod yn frawychus i blant a’u teuluoedd. Mae’r fideo isod wedi ei anelu at baratoi plant a rhieni cyn iddynt ymweld ag ysbyty, er mwyn iddynt ddeall yr hyn sydd i’w ddisgwyl yn well. Mae triniaeth, diogelwch a chysur eich plentyn yn bwysig iawn i ni a gwnewn pob peth o fewn ein gallu i wneud ei ymweliad neu arhosiad â ni mor bleserus â phosibl.

Mwynhewch y daith o amgylch y wardiau plant yn ysbytai Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg yn ein ffilm arbennig ar gyfer plant.

Beth i ddod gyda chi

Gall paratoi ar gyfer ymweliad ag ysbyty weithiau fod yn amser pryderus i blant a’u teuluoedd. Gall wybod sut mae cyrraedd a beth i ddod gyda chi eich helpu i deimlo’n fwy parod.

Dogfennau, gwybodaeth a meddyginiaeth

  • Y meddyginiaeth y mae eich plentyn yn eu cymryd ar hyn o bryd, yn cynnwys meddyginiaethau heb eu rhagnodi
  • Gwybodaeth am unrhyw anghenion deietegol arbennig
  • Gwybodaeth am unrhyw alergeddau bwyd neu alergeddau meddyginiaeth
  • Manylion cyswllt eich Meddyg Teulu

Eitemau personol ar gyfer eich plentyn

  • Offer meddygol neu gymhorthion anabledd (os yn berthnasol)
  • Bag ymolchi – yn cynnwys brwsh dannedd, past dannedd, brwsh neu grib
  • Tegan arbennig neu flanced er mwyn cysuro
  • Pyjamas, gŵn nos a sliperi
  • Napis
  • Tywel

Eitemau personol ar eich cyfer chi
Os ydych yn bwriadu aros dros nos, dewch â:

  • Sach gysgu a gobennydd
  • Bag ymolchi

Gallwch hefyd ddod ag eitemau personol megis chwaraewr DVD symudol, chwaraewr MP3, gliniadur/tabled neu gonsol llaw, ond sicrhewch bod y rhain yn cael eu cadw’n ddiogel. Nodwch nad yw’r wardiau’n derbyn cyfrifoldeb am eu diogelwch. Os nad ydych yn siwr, neu os oes gennych ymholiadau pellach, ffoniwch y ward y mae eich plentyn yn cael ei dderbyn iddi. 

Cyrraedd yr ysbyty

Mae meysydd parcio ein hysbytai yn brysur iawn felly rydym yn argymell eich bod yn caniatáu digon o amser ar gyfer eich taith ac yn ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi os yn bosibl. Efallai bydd yn rhaid i chi giwio i barcio ar adegau prysur. Fel arfer, mae cyfarwyddiadau o amgylch yr ysbyty yn rhan o’ch llythyr derbyn neu gallwch holi yn y brif dderbynfa wrth gyrraedd. Cliciwch yma i gael mwy o fanylion am opsiynau trafnidiaeth (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: