Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau i blant - ein cyfleusterau

Mae ein wardiau'n darparu ystod o gyfleusterau i chi a'ch plant. Isod mae crynodeb o'r cyfleusterau sydd ar gael:

  • Ystafelloedd gwely – pedwar gwely ym mhob un
  • Ystafell ar gyfer babanod
  • Ystafell ymgynghori
  • Ystafell driniaeth
  • Ystafell sefydlogi
  • Ystafell ynysu
  • Cyfleusterau ymolchi
  • Ystafell chwarae
  • Ystafell ar gyfer pobl ifanc

Gofynnwch i aelod o staff os ydych chi am wybod ble mae'r cyfleusterau uchod - mae ein staff yma i'ch helpu chi.

Ein hystafelloedd chwarae

Mae gan bob ward ystafell chwarae ddynodedig i chi a'ch plant. Pan fydd plant yn sâl yn yr ysbyty mae eu trefn yn mynd yn ddryslyd ac efallai y byddan nhw'n cael eu gwahanu oddi wrth eu teulu a phobl gyfarwydd eraill am gyfnodau o amser. Mae gallu chwarae tra yn yr ysbyty yn golygu y gall plant barhau â'u bywydau arferol. Ar y ward, cewch eich tywys o amgylch yr ystafell chwarae. Bydd teganau, gemau, crefftau, llyfrau a gweithgareddau eraill ar gael.

Ystafell Rhieni

Er ei bod yn bwysig rhoi sicrwydd i blant am eu harhosiad yn yr ysbyty, mae'r un mor bwysig i edrych ar ôl eich hun. Byddwch yn gallu gofalu am eich plentyn a rhoi cefnogaeth yn well os ydych chi'n ymdopi'n dda eich hun. Cofiwch, mae'n iawn i gymryd egwyliau. Ewch am dro, neu gael paned o de neu goffi. Siaradwch am bethau gyda'ch partner, ffrindiau neu deulu - byddant yn gallu rhoi cymorth, a gall siarad lleihau stress ymhob ffordd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: