Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth rheoli pwysau – yr hyn yr ydym yn ei gynnig

Rydym yn darparu gwasanaeth cefnogol a thosturiol i bobl sy'n byw â gordewdra. Rydym yn gwybod y gall colli pwysau fod yn anodd iawn, a dyna pam yr ydym yn defnyddio dulliau sydd wedi'u profi. Rydym yn canolbwyntio ar eich helpu i wneud newidiadau cadarnhaol hirdymor i'ch ffordd o fyw, yn hytrach nag atebion cyflym byrdymor.

Byddwn yn eich cefnogi i oresgyn unrhyw rwystrau a allai fod gennych o ran colli pwysau, ac yn eich helpu i wneud newidiadau a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau colli pwysau personol.

Mae ein tîm yn cynnig cymorth ym meysydd deieteg, seicoleg, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a chymorth meddygol, yn dibynnu ar eich anghenion unigol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: