Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallaf gael fy atgyfeirio at wasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint?

Trwy ofyn i’ch Meddyg Teulu, nyrs practis, nyrs anadlol, ymgynghorydd neu weithiwr iechyd proffesiynol i anfon atgyfeiriad atom ar eich rhan. Rhaid i chi fod yn siwr eu bod yn gyfarwydd â chi a bod gennych ddiagnosis wedi’i gadarnhau o glefyd yr ysgyfaint.

Byddwch yn cael eich asesu gan dîm o Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol a Nyrsys Anadlol ac yn cael cynnig dull sy’n canolbwyntio ar y claf i’ch galluogi i hunan-reoli eich cyflwr iechyd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: